Skip to content

Nodweddion: Trosolwg

Nodweddion

Trosolwg

Dysgu mwy am nodweddion eich BBC micro:bit

micro:bit newydd â sain

Diagram yn dangos blaen a chefn y micro:bit newydd â sain

micro:bit gwreiddiol

a labelir fel dyfais wreiddiol micro:bit ar y blaen a'r cefn

Nodweddion ar y blaen

Mae gan eich BBC micro:bit amrywiaeth eang o nodweddion i chi eu harchwilio. Dysgu mwy am bob un o'r nodweddion wedi'u rhifo isod.

Diagram wedi'i rifo o flaen y micro:bit gwreiddiol

micro:bit gwreiddiol

Diagram wedi'i rifo o flaen y micro:bit newydd â sain

micro:bit newydd â sain

1. Botymau

Mae gan y micro:bit ddau fotwm ar y blaen y gellir eu defnyddio ar wahân neu gyda'i gilydd i wneud i bethau ddigwydd.

Dysgu mwy am y botymau

2. Dangosydd LED a synhwyrydd golau

Mae 25 o LEDs wedi'u trefnu mewn grid 5x5 yn ffurfio'r dangosydd ar gyfer dangos lluniau, geiriau a rhifau. Gallant hefyd weithredu fel synwyryddion, gan fesur faint o olau sy'n cwympo ar eich micro:bit.

3. Pinnau - GPIO

Mae'r pinnau GPIO yn caniatáu i chi gysylltu clustffonau, synhwyro cyffwrdd ac ychwanegu dyfeisiau electroneg arall i ehangu posibiliadau eich micro:bit. Mae gan y micro:bit newydd riciau i afael ar y clipiau crocodeil yn fwy tyn.

Dysgu mwy am y pinnau

4. Pin - pŵer 3 folt

Gallwch bweru LEDs allanol a dyfeisiau electroneg arall gan ddefnyddio'r pin pŵer 3 folt.

Dysgu mwy am y pinnau

5. Pin - Daear

Y pin GND yw'r pin Daear - fe'i defnyddir i gwblhau cylchedau trydanol pan fyddwch yn cysylltu clustffonau, LEDs neu switshis allanol â'ch micro:bit.

Dysgu mwy am y pinnau

6. Logo cyffwrdd - newydd

Mae gan y micro:bit newydd fewnbwn ychwanegol. Mae'r logo aur hefyd yn gweithio fel synhwyrydd cyffwrdd. Gallwch ei ddefnyddio fel botwm ychwanegol yn eich rhaglenni, yn ogystal â'r botymau A a B.

Dysgu mwy am gyffwrdd

7. LED Meicroffon - newydd

Gallwch greu rhaglenni sy'n ymateb i seiniau uchel a thawel a mesur lefelau sŵn â meicroffon parod newydd y micro:bit. Mae LED y meicroffon yn dangos i chi pan fydd y meicroffon wrthi'n mesur lefelau sain. Ychydig i'r chwith o'r LED, byddwch yn gweld twll bach lle mae'r sain yn mynd i mewn.

Dysgu mwy am y meicroffon

Nodweddion ar y cefn

Diagram wedi'i rifo o nodweddion ar gefn y micro:bit gwreiddiol

micro:bit gwreiddiol

Diagram wedi'i rifo o nodweddion ar gefn y micro:bit newydd

micro:bit newydd â sain

1. Antena radio a Bluetooth

Gall eich micro:bit gyfathrebu â micro:bits eraill trwy radio, ac â dyfeisiau eraill gan ddefnyddio Bluetooth.

Dysgu mwy am radio

2. Prosesydd a synhwyrydd tymheredd

Prosesydd y micro:bit yw ei ymennydd, sy'n cyrchu, datgodio a chyflawni'ch cyfarwyddiadau. Mae hefyd yn cynnwys synhwyrydd tymheredd fel y gallwch fesur pa mor gynnes neu oer yw eich amgylchedd.

3. Cwmpawd

Dod o hyd i Ogledd magnetig neu fesur cryfder meysydd magnetig gan ddefnyddio cwmpawd y micro:bit. Gall fesur meysydd magnetig mewn tri dimensiwn, felly gallwch ei ddefnyddio ar gyfer arbrofion gwyddoniaeth neu ar gyfer gwneud larymau drws neu ffenestr syml.

Dysgu mwy am y cwmpawd

4. Mesurydd cyflymu

Mae mesurydd cyflymiad y micro:bit yn mesur grymoedd mewn 3 dimensiwn, gan gynnwys disgyrchiant, er mwyn i'ch prosiectau ddweud pa ffordd i fyny yw eich micro:bit. Gallwch ei ddefnyddio ar gyfer arbrofion gwyddoniaeth, ychwanegu mewnbynnau ysgwyd ar gyfer gemau neu wneud larymau syml sy'n eich rhybuddio pan fydd rhywun yn symud eich pethau.

Dysgu mwy am y mesurydd cyflymiad

5. Pinnau

Cysylltu eich micro:bit i wneud clustffonau, switshis a dyfeisiau electroneg syml, synhwyro cyffwrdd a mwy. Gall y pinnau bweru ategolion syml megis goleuadau lliwgar, moduron a robotiaid.

Dysgu mwy am y pinnau

6. Soced USB micro

Lawrlwytho rhaglenni i'ch micro:bit o gyfrifiadur a'i bweru gan ddefnyddio ei ryngwyneb USB.

Dysgu mwy am ryngwyneb yr USB

7. LED melyn unigol

Mae'r LED unigol ar gefn y micro:bit gwreiddiol yn fflachio pan fyddwch yn lawrlwytho rhaglen iddo, ac yn goleuo i ddangos ei fod yn cael ei bweru o'r soced USB.

8. Botwm ailosod

Ailgychwyn eich rhaglenni micro:bit â'r botwm ailosod.

9. Soced batri

Yn lle pweru'ch micro:bit o'r soced USB, gallwch ei ddad-blygio o'ch cyfrifiadur a defnyddio pecyn batri yn ei le. Mae hyn yn ddefnyddiol iawn os ydych yn dymuno mynd â'ch micro:bit y tu allan, ei wisgo neu chwarae gemau gydag ef. Gall redeg am gyfnod hir gan ddefnyddio dau fatri AAA yn unig.

10. Sglodyn rhyngwyneb USB

Defnyddir y sglodyn rhyngwyneb ar gyfer fflachio cod newydd i'r micro:bit, anfon a derbyn data cyfresol i ac o'ch cyfrifiadur drwy USB.

Dysgu mwy am ryngwyneb yr USB

11. Seinydd - newydd

Mae gan y micro:bit newydd â sain seinydd parod er mwyn i chi allu ychwanegu cerddoriaeth a synau newydd at eich prosiectau hyd yn oed yn haws.

Dysgu mwy am y seinydd

12. Meicroffon - newydd

Mae meicroffon newydd y micro:bit a dangosydd yr LED wedi'u gosod yng nghefn y bwrdd. Mae'r LED yn goleuo pan fydd yn monitro lefelau sain ac yn weladwy fel eicon meicroffon ar flaen y bwrdd. Mae twll bach yn y blaen hefyd i ganiatáu i sain fynd i mewn i'r meicroffon.

Dysgu mwy am y meicroffon

13. LED pŵer coch - newydd

Mae'r LED coch ar gefn y micro:bit newydd yn dangos pan fydd gan eich micro:bit bŵer, naill ai o fatris neu gebl USB.

14. LED USB Melyn - newydd

Ar y micro:bit newydd, mae golau LED melyn yn fflachio pan fydd eich cyfrifiadur yn cyfathrebu â'r micro:bit dros USB, er enghraifft pan fyddwch yn fflachio ffeil rhaglen.

15. Botwm ailosod a phŵer - newydd

Bydd gwasgu'r botwm hwn ar y micro:bit newydd yn ailosod y micro:bit ac yn rhedeg eich rhaglen eto o'r dechrau. Os byddwch yn ei ddal i lawr, bydd yr LED pŵer coch yn pylu. Pan fydd pŵer yr LED yn tywyllu, rhyddhewch y botwm a bydd eich micro:bit yn y modd cysgu i arbed pŵer. Defnyddiwch hyn i wneud i'ch batrïau bara'n hwy. Gwasgwch y botwm eto i ddeffro'ch micro:bit.

Ariennir gan Lywodraeth Cymru / Funded by Welsh Government

Translation generously supported by the Welsh Government.