Skip to content

Nodweddion: Mewnbynnau, allbynnau a phroseswyr

Nodweddion

Mewnbynnau, allbynnau a phroseswyr

Dysgu sut mae cyfrifiaduron yn gweithio

Mewnbynnau ac allbynnau

Mae'r micro:bit yn eich helpu i ddeall sut mae cyfrifiaduron yn gweithio. Pan fyddwch yn teipio ar eich gliniadur neu'n cyffwrdd y sgrin ar eich ffôn, rydych yn defnyddio dyfais fewnbwn Mae mewnbynnau yn caniatáu i gyfrifiaduron synhwyro pethau sy'n digwydd yn y byd go iawn, fel y gallant weithredu ar hyn a gwneud i rywbeth ddigwydd, fel arfer ar allbwn megis sgrin neu glustffonau.

Mae mewnbynnau ac allbynnau'n rhan bwysig o unrhyw system gyfrifiadurol. Fel cyfrifiadur bach iawn, mae gan BBC micro:bit ddigon o fewnbynnau ac allbynnau i ddysgu amdanynt a'u defnyddio.

Prosesydd

Rhwng y mewnbwn a'r allbwn, mae'r prosesydd. Mae hwn yn cymryd gwybodaeth o fewnbynnau fel botymau, ac yn gwneud i rywbeth ddigwydd ar allbynnau, megis chwarae cân yn eich clustffonau.

Weithiau gelwir prosesydd yn ‘ymennydd’ cyfrifiadur ac mae gan eich BBC micro:bit brosesydd micro y tu mewn iddo. Mae'n rhan hanfodol o'ch micro:bit gan ei fod yn rhedeg y rhaglenni rydych yn eu hysgrifennu.

Rhyngwyneb USB

Defnyddir USBs, neu Fysiau Cyfresol Cyffredinol, i gysylltu, cyfathrebu a phweru cyfrifiaduron a dyfeisiau digidol.

Mae gan y BBC micro:bit ryngwyneb USB i'ch galluogi i gysylltu'ch cyfrifiadur â'ch micro:bit gan ddefnyddio cebl USB micro a phweru eich micro:bit.

Gwyliwch y fideo i ddysgu mwy am y rhyngwyneb USB ar y micro:bit.

Ariennir gan Lywodraeth Cymru / Funded by Welsh Government

Translation generously supported by the Welsh Government.