Skip to content

Beth yw'r micro:bit?

Yn annog myfyrwyr i fod yn creadigol gyda chodio ers 2016

llun agos o blentyn yn dal bwrdd micro:bit rhwng ei fysedd dros ei wyneb

Hawdd. Effeithiol. Difyr.

Manon

Mae'r micro:bit yn yn ffordd hylaw iawn o ddatblygu codio. Mae'n rhywbeth go iawn, cyffrous, ac yn rhoi hyder i fy myfyrwyr roi cynnig ar rywbeth newydd ac arbrofi.

Manon, Athrawes, y DU

Cyfrifiadura diriaethol

Micro:bit yn y blaendir yn dangos wyneb hapus tra bo'r eicon ar gyfer nodweddion y micro:bit yn amlwg yn y cefndir

Defnyddiwch y micro:bit i brofi, mesur a chofnodi

  • Golau

  • Tymheredd

  • Sain

  • Symudiad

  • Magneteg

Archwilio

  • Botymau

  • LEDs

  • Radio

  • Rhwydweithiau

  • Cylchredau syml

  • Pinnau

Animeiddiad yn dangos blociau cod ar gyfer rhaglen o galon sy'n fflachio a anfonwyd o gyfrifiadur i micro:bit. Yna mae sgrin y micro:bit yn dangos eicon mawr ac yna bach o galon, drosodd a throsodd.

Ychwanegu cod

i ddod â'r micro:bit yn fyw

Ychwanegu cod

i ddod â'r micro:bit yn fyw

Animeiddiad yn dangos blociau cod ar gyfer rhaglen cyfrif camau a anfonwyd o gyfrifiadur i micro:bit. Yna mae sgrîn y micro:bit yn dangos 0.

Newidiwch y cod

i'w drawsnewid i rywbeth newydd

Newidiwch y cod

i'w drawsnewid i rywbeth newydd

Camu i mewn byd go iawn

Animeiddiad o gyfrwr camau. Micro:bit gyda 0 ar y sgrin yn sownd wrth esgid rhedeg. Mae'r esgid rhedeg yn camu ddwywaith. Mae pob cam yn cynyddu'r rhif ar y micro:bit, gan ddangos 1 ac yna 2.

Cyfleoedd di-ri i ennyn diddordeb myfyrwyr mewn technoleg byd go iawn

a micro:bit attached to a trainer overlaid by a semi-transparent time series graph of data logged by the micro:bit

Casglu data ar gyfer mathemateg a gwyddoniaeth

three primary or elementary age students look at a micro:bit connected to a battery pack while outdoors

Gwneud dysgu'n chwareus

a micro:bit attached to a padlock securing a box

Dod â diogelwch digidol yn fyw

a micro:bit attached to a guitar-shaped piece of cardboard with crocodile clips connected to foil covered sections on the cardboard and the micro:bit pins

Byddwch yn greadigol gyda goleuadau, synnau a symudiad

a micro:bit and attached battery pack resting on top of a map with an up arrow displayed on the micro:bit LED display

Ewch allan a defnyddiwch dechnoleg

a smart home prototype built for the do your :bit challenge

Archwiliwch faterion amgylcheddol

Technoleg a ddyluniwyd i bawb

Dysgwch fwy am y Micro:bit Educational Foundation, y cwmni nid-er-elw a sefydlodd y micro:bit

44 miliwn

o fyfyrwyr wedi dysgu gyda micro:bit*

60+

gwledydd sy'n dysgu gyda'r micro:bit

Defnyddir y micro:bit gan filiynau o bobl ledled y byd i gael profiad ymarferol o gyfrifiadureg a thechnoleg.

Dwy ferch yn trin a thrafod micro:bit, gan bwyso botymau a gwenu

Defnyddir y micro:bit gan filiynau o bobl ledled y byd i gael profiad ymarferol o gyfrifiadureg a thechnoleg.

Yn ysbrydoli pob plentyn

drwy wneud cyfrifiadura yn ddifyr ac ystyrlon i godwyr newydd a phrofiadol.

Grymuso addysgwyr

Meithrin eich hyder drwy hyfforddiant

Cyrsiau datblygu proffesiynol a gweminarau byw am ddim i'r athrawon sy'n magu profiad yn ogystal â'r hen lawiau.

Archwilio cyrsiau
Athrawes yn eistedd gyda disgybl yn egluro sut mae'r micro:bit yn gweithio
Disgybl benywaidd mewn dosbarth ysgol gynradd yn cyfeirio at god bloc ar fwrdd gwyn rhyngweithiol

Popeth sydd ei angen arnoch i ysbrydoli'ch myfyrwyr

Mae unedau gwaith, gwersi, prosiectau, heriau cynllunio ac adnoddau i'w hargraffu, oll yn gysylltiedig â'r cwricwlwm, gan gynnwys tystysgrifau a phosteri, yn rhoi popeth sydd ei angen arnoch i ddysgu ac ysbrydoli'ch myfyrwyr.

Darganfod adnoddau dysgu

Yn eich cefnogi i ddysgu'ch holl ddobarth i gyd

Gyda micro:bit classroom gallwch gynnal sesiynau i ddosbarthiadau cyfain, rhannu codau'n syml gyda myfyrwyr dros sawl gwers a chadw cofnod cynnydd.

Rhowch gynnig ar micro:bit classroom
Saith plentyn mewn gwisg ysgol, yn eistedd yn eu hystafell ddosbarth, gyda llaw pob un i fyny

Offer codio arlein

Ein golygydd bloc swyddogol yw Microsoft MakeCode a'n teclyn rhaglennu testun yw'r golygydd micro:bit Python. Mae'r BBC micro:bit yn gweithio hefyd gyda Scratch, Code.org App Lab ac amryw o declynau/dyfeisiau golygu eraill.

Codio bloc ar gyfer plant 8 oed a hŷn

Codio bloc ar gyfer plant 8 oed a hŷn

Codio testun ar gyfer plant 11 oed a hŷn

Codio testun ar gyfer plant 11 oed a hŷn

Oes gennych micro:bit yn barod?

Cymerwch y camau cyntaf ar eich taith micro:bit heddiw.

Dechrau arni

Awydd prynu?

Dewisiwch y dewis gorau i chi a dewch o hyd i ail-werthwr lleol.

Prynu

Cwestiynau Cyffredin

Ymweld â'n sylfaen Gwybodaeth

Beth sy'n rhan o'r becyn addysgol micro:bit?

Yn ychwanegol at y BBC micro:bits eu hunain, gall defnyddwyr fanteisio ar adnoddau gwersi, cyrsiau datblygu proffesiynol ac offer codio ac ystafell ddosbarth, oll am ddim. Mae'r rhain oll ar gael o'n Hadran Ddysgu. Efallai yr hoffech hefyd gael cipolwg ar ein tudalennau cynnyrch i weld beth sydd wedi ei gynnwys yn y blwch ar gyfer pob un o'n heitemau.

Ar gyfer pa oed mae'r micro:bit yn addas?

Mae'r BBC micro:bit wedi ei ddylunio ar gyfer pobl ifanc 8 oed a hŷn ac mae'n cwmpasu dysgu ym mhob cam o addysg yn yr ysgol: ysgolion cynradd/elfennol, canol, ac uwchradd.

A yw adnoddau micro:bit yn cydweddu i'm cwricwlwm?

Rydym yn darparu unedau gwaith sy'n cydweddu i'r cwricwlwm yn yr Unol Daleithiau, Lloegr, yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon. Mae'r adnoddau hyn, a'n hadnoddau dysgu eraill, yn cwmpasu meysydd allweddol ar feysydd llafur cyfrifiadureg ledled y byd.

Ar ba gyfrifiaduron neu ddyfeisiau symudol mae'r micro:bit yn gweithio?

Mae'r micro:bit yn gweithio gyda Microsoft, MacOS, iPadiau Apple (ac iFfonau) a dyfeisiau Android. Gweler isafswm gofynion.

Sawl micro:bit sydd ei angen arnaf ar gyfer dosbarth?

Rydym fel rheol yn argymell o leiaf 1 micro:bit rhwng 2 fyfyriwr, er y gellir eu defnyddio mewn gweithgareddau dysgu gyda grwpiau bychain.

Beth sydd ar gael mewn ieithoedd gwahanol?

Mae'r golygydd MakeCode a'r golygydd Python ynghyd â rhai tudalennau ac adnoddau dysgu ar ein gwefan ar gael mewn sawl iaith. Gweler manylion ynghylch sut i weld cynnwys mewn ieithoedd gwahanol.

Darperir ein cyfieithiadau gyda chefnogaeth ein tîm o wirfoddolwyr gwych. Dysgwch fwy am wirfoddoli.

Rwyf wedi clywed pobl yn galw'r micro:bit yn ddyfais cyfrifiadura ddiriaethol. Beth yw ystyr hynny a pham ei fod yn bwysig?

Rydym ni wedi darparu erthygl i egluro'n fanylach beth rydym ni'n ei olygu wrth gyfrifiadura diriaethol a pham ei fod mor greiddiol i'r hyn y mae micro:bit yn ei gynnig.

Pam ei bod hi'n bwysig bod pobl ifanc yn codio?

Mae'r erthygl hon yn egluro pam fod dysgu pobl ifanc i godio yn bwysig a sut y gall micro:bit helpu.

Sut mae'r micro:bit yn cefnogi hygyrchedd?

Ein nod yw sicrhau bod ein cynnyrch a'n gwasanaethau ar gael i gynulleidfa mor eang â phosib. Dysgwch fwy am sut rydym ni'n mynd ati ac yn darparu ar gyfer hygyrchedd.