Radio a phinnau
Mynd â'ch rhaglennu micro:bit i'r lefel nesaf gan ddefnyddio radio a phinnau
Radio
Gall eich micro:bit gyfathrebu'n ddi-wifr â micro:bits eraill gan ddefnyddio radio. Mae radio yn ffordd o anfon a derbyn negeseuon a gall BBC micro:bits ddefnyddio tonnau radio i gyfathrebu â'i gilydd.

Telegludo hwyaden rhwng micro:bits gan ddefnyddio radio

Newid cyfrinachau gyda ffrind gan ddefnyddio radio

Synhwyro pan ddaw rhywbeth yn agos
Pinnau
Ar ymyl waelod eich BBC micro:bit, mae 25 stribed aur, a elwir yn binnau. Mae'r pinnau hyn yn caniatáu i chi fod yn greadigol iawn. Gallwch greu cylchedau, cysylltu pethau allanol megis swnwyr a moduron a gwneud eich prosiectau llawn hwyl eich hun.

Ymchwiliwch i weld a yw deunydd yn dargludo trydan.

Creu larwm tresbaswr di-wifr

Gwneud gêm ymateb ar gyfer 2 chwaraewr
This content is published under a Creative Commons Attribution-ShareAlike 4.0 International (CC BY-SA 4.0) licence.

Translation generously supported by the Welsh Government.