Skip to content

Diogelu

Cod Ymddygiad

Pwrpas

  • rydym yn gwahodd pawb sy'n cymryd rhan mewn gweithgareddau ac yn rhyngweithio mewn lleoedd ochr yn ochr â'r Micro:bit Educational Foundation i wneud pob profiad yn gynhwysol ac yn gadarnhaol
  • rydym yn gofyn i bartneriaid sy'n defnyddio'r micro:bit fel rhan o'u gweithgareddau sicrhau alinio â'r cod ymddygiad hwn, a sicrhau bod prosesau diogelu ar waith drwy gydol eu gweithgareddau
  • rydym yn cefnogi ac yn annog ymgysylltu â phlant (unrhyw un o dan 18 oed) yn ein cymuned, ar-lein yn ogystal â mewn digwyddiadau
  • rydym bob amser yn ceisio diogelu plant ym mhob un o'n gweithgareddau; rydym yn ceisio sicrhau bod ein gweithgareddau yn unol â'n gwerthoedd ac yn cefnogi'r sefydliad i hyrwyddo ei waith i ysbrydoli a galluogi plant i gymryd rhan yn y byd digidol
  • mae cryfder i'w gael mewn amrywiaeth ac rydym yn ceisio gwneud unrhyw ymgysylltiad â'r Micro:bit Educational Foundation yn un sy'n galluogi ac yn gwerthfawrogi cyfranogiadau

Ymddygiad disgwyliedig

  1. cefnogi cyfranogiad pobl eraill yn y lle; mae ein cymuned yn bwriadu annog creadigrwydd a chydweithio, rydym yn croesawu syniadau newydd, rydym yn croesawu cynigion, mae pawb yn dysgu
  2. ystyried pobl eraill cyn i chi ryngweithio, gan gynnwys lefel eu sgiliau a'u profiad technegol a'u lefel o gyfforddusrwydd wrth gymryd rhan mewn sgwrs, dylai pob lle fod yn le cefnogol
  3. ystyried gallai'r unigolyn neu unigolion rydych yn rhyngweithio â nhw fod yn blentyn
  4. ystyried gallai'r unigolyn neu unigolion rydych yn rhyngweithio â nhw fod yn oedolyn
  5. mewn lleoedd ar-lein sy'n cael eu rheoli gan y Foundation, rydym yn annog peidio anfon negeseuon uniongyrchol er mwyn cefnogi lleoedd diogel i blant

Ymddygiad annerbyniol

  1. Mae ymddygiadau annerbyniol yn cynnwys iaith neu weithredoedd bygythiol, aflonyddol, sarhaus, gwahaniaethol, bychanol neu ddiraddiol gan unrhyw gyfranogwr yn ein cymuned ar-lein, ymhob digwyddiad cysylltiedig ac mewn cyfathrebiadau un i un a gynhelir yng nghyd-destun rhyngweithiadau cymunedol
  2. Mae aflonyddu'n cynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i: sylwadau llafar neu ysgrifenedig niweidiol neu ragfarnus sy'n gysylltiedig ag oedran, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, "hil" neu ethnigrwydd, crefydd, anabledd; defnydd amhriodol o noethni a/neu ddelweddau rhywiol mewn mannau cyhoeddus (gan gynnwys lleoedd ar-lein); docsio, bygwth, stelcio neu ddilyn; ffotograffiaeth neu recordio heb ganiatâd ymlaen llaw; aflonyddwch parhaus ar sgyrsiau, trafodaethau neu ddigwyddiadau eraill ar-lein

Canlyniadau

  1. bydd unrhyw ryngweithiadau sy'n achosi pryder yn cael eu hasesu a'u gwerthuso
  2. wedyn, gellir gwneud cais i addasu ymddygiad neu iaith i gefnogi aelodau'r gymuned, gellir dileu neu dynnu sylwadau
  3. bydd unrhyw weithredoedd a asesir fel torri'r cod ymddygiad yn ddifrifol yn arwain at gael eu tynnu o'r lle a rhoi terfyn ar ryngweithio â'r gymuned hon

Adrodd

Bydd gan y Micro:bit Educational Foundation Drefnwyr Cymunedol mewn unrhyw le neu ddigwyddiad y maent yn gyfrifol amdanynt yn uniongyrchol, ac mewn llawer o ddigwyddiadau partner; eu rôl yw cefnogi'r gymuned mewn digwyddiadau, lleoedd ar-lein neu rithwir a thrwy gydol pob gweithgaredd. Bydd y Trefnydd Cymunedol yn cofnodi ac yn gweithredu unrhyw achos o dorri'r cod ymddygiad a gall atgoffa neu gefnogi aelodau'r gymuned i weithio mewn modd cefnogol. Os ydych mewn digwyddiad neu ar-lein, cyflwynir Trefnwyr Cymunedol lle bo hynny'n bosibl. Efallai y byddant yn gwisgo crysau-T neu fathodynnau sy'n nodi eu bod yn aelod o dîm y Foundation ac yn Drefnwr Cymunedol.

Os ydych yn dyst i ymddygiad annymunol neu'n pryderu am ymddygiad aelod o'r gymuned, cysylltwch â'r trefnydd cymunedol yn eich lle neu yn eich digwyddiad, neu adroddwch drwy safeguarding@microbit.org gyda'ch pryderon cyn gynted â phosibl.

Os ydych yn pryderu am ymddygiad aelod o dîm y Foundation, neu os oes gennych bryderon ynghylch penderfyniad a wnaed yn y broses adrodd, adroddwch drwy report@microbit.org. Bydd hyn yn adrodd eich pryderon wrth yr Arweinydd Diogelu a chanolbwynt Aelod y Bwrdd ar gyfer Diogelu, y tu allan i'r tîm rheolaidd. Cedwir eich adroddiad yn gyfrinachol.

Trwydded a phriodoliad

Datblygwyd y cod ymddygiad hwn gan a gyda diolch i God Ymddygiad Berlin a Chod Ymddygiad Ubuntu

https://creativecommons.org/licenses/by-sa/3.0/ license