Skip to content

Gweithgaredd

Cath Scratch yn neidio

Dechreuwr | Scratch | Mesurydd cyflymiad | Dilyniant

Cam 1: Gwneud

Beth yw e?

Cychwyn arni gyda Scratch a micro:bit: gwneud i gath Scratch neidio pan fyddwch yn taflu eich tegan meddal eich hun yn yr awyr.

Ciplun o brosiect Scratch - cath yn neidio

Sut mae'n gweithio

  • Cysylltu pecyn batri â'ch micro:bit a'i gysylltu â Scratch, wedyn ei gysylltu â thegan meddal. Gwarchod y micro:bit fel na fydd yn cael ei niweidio os byddwch yn ei ollwng!
  • Wedi'i hysbrydoli gan demo gwych gan Kreg o dîm Scratch, mae'r rhaglen hon yn defnyddio mesurydd cyflymiad y micro:bit i synhwyro pan fydd wedi'i daflu ac yn gwneud i gorlun y gath Scratch neidio ar yr un pryd.
  • Ar yr un pryd, mae'r corlun yn newid lliw, yn gwneud sain miaw ac yn gwneud i'r traw fynd yn uwch bob tro rydych yn ei daflu.
  • Mae'n defnyddio'r bloc llithro i wneud i Scratch neidio i'r rhan o'r sgrin bob amser, ac wedyn mynd i lawr eto mewn dilyniant.

Beth sydd ei angen arnoch

  • micro:bit a phecyn batri
  • cyfrifiadur addas gyda dolen Scratch wedi'i gosod. Gweler https://scratch.mit.edu/microbit i gael manylion am sut i gael Scratch i weithio gyda micro:bit.
  • tegan meddal neu rywbeth meddal ac amddiffynnol i roi eich micro:bit ynddo

Cam 2: Codio

Blociau Scratch a ddefnyddir ar gyfer corlun cath

Blociau Scratch ar gyfer corlun cath

Cam 3: Gwella

  • Recordio eich seiniau eich hun i gymryd lle'r 'miaw'.
  • Gwneud i rywbeth ymddangos ar ddangosydd y micro:bit pan fyddwch yn ei daflu.
  • Newid gwisg y corlun pan fyddwch yn gwasgu botwm ar y micro:bit.
  • Gwneud i'r gath Scratch neidio'n uwch bob tro rydych yn taflu eich micro:bit.
Ariennir gan Lywodraeth Cymru / Funded by Welsh Government

Translation generously supported by the Welsh Government.