Skip to content

Gweithgaredd

Deinosor newynog Scratch

Dechreuwr | Scratch | Dangosydd LED, Mesurydd cyflymiad | Dewis, Newidynnau, Synwyryddion

Cam 1: Gwneud

Beth yw e?

Dysgu i sut i wneud rheolydd gêm di-wifr gyda'ch micro:bit a Scratch - a helpu i fwydo tacos i'ch deinosor!

Ciplun o gêm Scratch lle mae'n rhaid i ddeinosor fwyta tacos ac osgoi chwilod

Sut mae'n gweithio

  • I chwarae'r gêm, cysylltu'ch micro:bit â Scratch, wedyn gwyro'r micro:bit i symud y deinosor i ddal a bwyta tacos.
  • Bob tro mae'r deinosor yn cyffwrdd â thaco, bydd y newidyn pwyntiau yn cynyddu gan 1.
  • Osgoi'r chwilod – os byddwch yn cyffwrdd â nhw, bydd y newidyn yn lleihau gan 1.
  • Mae'r rhaglen yn defnyddio darlleniadau mewnbwn mesurydd cyflymiad y micro:bit i synhwyro ym mha ffordd rydych yn ei wyro.
  • Wedyn, mae'n defnyddio dewis i benderfynu beth fydd yn digwydd nesaf: os byddwch yn ei wyro ymlaen neu yn ôl bydd yn symud corlun y deinosor i fyny ac i lawr (ar yr echelin Y).
  • Os byddwch yn ei wyro i'r chwith ac i'r dde, bydd yn symud y deinosor ar draws y sgrin ar yr echelin X.
  • Mae'r rhaglen hefyd yn anfon eich sgôr i'r micro:bit er mwyn iddo ymddangos ar ei allbwn dangosydd LED.

Beth sydd ei angen arnoch

  • micro:bit a phecyn batri opsiynol
  • cyfrifiadur addas gyda dolen Scratch wedi'i gosod. Gweler https://scratch.mit.edu/microbit i gael manylion am sut i gael Scratch i weithio gyda micro:bit

Cam 2: Codio

Blociau Scratch ar gyfer y corlun deinosor

Blociau ar gyfer y corlun deinosor

Blociau cod Scratch ar gyfer y corlun taco

Blociau cod ar gyfer y corlun taco

Blociau cod Scratch ar gyfer y corlun buwch goch gota

Blociau cod ar gyfer y corlun buwch goch gota

Cam 3: Gwella

  • Ychwanegu sgôr fuddugol neu golli ar ddiwedd y gêm.
  • Ychwanegu mwy o chwilod neu dacos neu bethau da a drwg eraill.
  • Ychwanegu lefelau at y gêm i'w gwneud yn anos wrth i chi symud ymlaen.
Ariennir gan Lywodraeth Cymru / Funded by Welsh Government

Translation generously supported by the Welsh Government.