Cam 1: Gwneud
Beth yw e?
Defnyddio mesurydd cyflymiad a nodweddion radio'r micro:bit i wneud prototeip o ddyfais i helpu gwyddonwyr i olrhain eirth gwynion neu anifeiliaid eraill a dysgu sut mae newid yn yr hinsawdd yn effeithio arnynt.
Mae'r prosiect hwn yn rhan o gyfres a grëwyd i gynnig gweithgareddau datrys problemau a phrototeipio i archwilio technoleg fel ateb i heriau'r Nodau Byd-eang ar gyfer Datblygiad Cynaliadwy.
Cyflwyniad
Canllaw codio
Beth fyddwch yn ei ddysgu
- Sut i wneud prototeip ar gyfer prosiect mwy
- Sut gellir defnyddio cyfathrebu radio rhwng dyfeisiau electronig ar gyfer astudiaeth wyddonol
Sut mae'n gweithio
- Mae'r rhaglen hon yn defnyddio nodwedd radio y micro:bit i greu prototeip ar gyfer olrhain symudiadau anifail. Gallwch ei ddefnyddio yn efelychwr MakeCode neu fflachio'r cod ar 2 micro:bit neu fwy. Byddai un yn cael ei gysylltu â'r anifail, byddai'r llall yn cael ei ddefnyddio gan y gwyddonydd fel derbynnydd.
- Yn gyntaf, mae'n gosod y grŵp radio i 7. Mae grwpiau fel sianeli, felly sicrhewch fod eich dau micro:bit yn defnyddio'r un grŵp.
- Os oes sawl un ohonoch yn gwneud y prosiect hwn mewn parau, sicrhewch fod pob pâr yn defnyddio rhif grŵp radio unigryw. Gallwch ddewis unrhyw rif grŵp yr hoffech o 0-255.
- Mae'n cymryd darlleniadau o'r mesurydd cyflymiad parod ac yn eu trosglwyddo drwy radio.
- Mae'r derbynnydd yn dangos darlleniadau'r mesurydd cyflymiad ar y dangosydd LED. Mae rhifau mwy yn golygu symudiadau cyflymach. Gallwch ddefnyddio'r rhifau hyn i wneud casgliadau am ymddygiad anifail, er enghraifft os yw'n chwilio am fwyd, cynefin newydd neu'n aros mewn un man i wneud cartref.
Beth sydd ei angen arnoch
- 2 micro:bit (neu efelychwr MakeCode)
- Golygydd MakeCode neu Python
- pecyn batri (opsiynol)
Cam 2: Codio
Cam 3: Gwella
- Mae'r rhaglen hon yn mesur symudiad yn yr echelin Y. Gall mesurydd cyflymiad y micro:bit fesur grymoedd mewn cyfeiriadau eraill, a hefyd rhoi darlleniad cyffredinol o gryfder. Arbrofi gan ddefnyddio mesuriadau echelin gwahanol i weld p'un sy'n gweithio orau.
- Gan ddibynnu ar yr echelin rydych yn ei fesur a sut rydych yn cysylltu synhwyrydd y micro:bit, efallai byddech yn sylwi ar ddarlleniadau hyd yn oed pan fydd yr anifail yn llonydd. Mae hyn oherwydd disgyrchiant y Ddaear, y mae'r micro:bit hefyd yn gallu ei fesur! Sut byddech yn sicrhau na fydd hyn yn effeithio ar eich darlleniadau?
- Pa synwyryddion eraill ar y micro:bit gallech eu defnyddio i drosglwyddo data ynghylch anifail?
This content is published under a Creative Commons Attribution-ShareAlike 4.0 International (CC BY-SA 4.0) licence.
Translation generously supported by the Welsh Government.