Skip to content

Gweithgaredd

Achub crwbanod môr

Dechreuwr | MakeCode, Python | Dangosydd LED, Synhwyrydd golau | 14 Bywyd o dan y dŵr, Dewis, Mewnbwn/allbwn

Cam 1: Gwneud

Beth yw e?

Mae crwbanod môr newydd ddeor yn defnyddio golau lleuad i gyrraedd y môr. Gall goleuadau tal a disglair eu drysu. Adeiladu prototeip golau traeth ar gyfer llwybrau sy'n arwain bodau dynol yn ddiogel ond nad ydynt yn tynnu sylw'r crwbanod.

Mae'r prosiect hwn yn rhan o gyfres a grëwyd i gynnig gweithgareddau datrys problemau a phrototeipio i archwilio technoleg fel ateb i heriau'r Nodau Byd-eang ar gyfer Datblygiad Cynaliadwy.

Cyflwyniad

Canllaw codio

Beth fyddwch yn ei ddysgu

  • Sut i wneud prototeip ar gyfer prosiect mwy
  • Sut mae cyfrifiaduron yn cymryd darlleniadau o fewnbynnau, yn prosesu'r data i wneud allbynnau gwahanol yn dibynnu ar werth darlleniadau synhwyrydd

Sut mae'n gweithio

  • Mae'r prosiect hwn yn defnyddio LEDs y micro:bit fel mewnbwn synhwyrydd golau. Gorchuddio'r dangosydd gyda'ch llaw a dylai oleuo gyda llun crwban.
  • Gellid defnyddio'r golau ar y llawr i arwain bodau dynol ar draws llwybr traeth yn y nos, heb ddrysu crwbanod môr newydd ddeor gyda goleuadau tal a disglair efallai byddant yn eu camgymryd am y lleuad.
  • Mae'r rhaglen yn defnyddio dewis i synhwyro a yw'r golau sy'n cyrraedd y micro:bit yn llai na lefel benodol, os yw'n llai na (<) 100. Os bydd yn dywyll, bydd yn goleuo dangosydd y micro:bit, fel arall, bydd yn clirio'r sgrin fel bod yr LEDs yn dywyll.
  • Efallai bydd angen i chi addasu'r rhif trothwy 100 gan ddibynnu ar amodau golau eich lleoliad. Os byddwch mewn lleoliad disglair iawn, efallai bydd angen rhif llai arnoch.

Beth sydd ei angen arnoch

  • micro:bit (neu efelychwr MakeCode)
  • Golygydd MakeCode neu Python
  • pecyn batri (opsiynol)

Cam 2: Codio

1from microbit import *
2
3while True:
4    if display.read_light_level() < 100:
5        display.show(Image(
6        "00000:"
7        "09900:"
8        "99999:"
9        "99999:"
10        "90090"))
11    else:
12        display.clear()
13    sleep(2000)

Cam 3: Gwella

  • Creu eich llun eich hun i'w ddangos ar y dangosydd LED
  • Ychwanegu animeiddiad
  • Newid y dangosydd i ddangos saethau i sicrhau bod pobl yn cerdded ar ochr gywir y llwybr

Ariennir gan Lywodraeth Cymru / Funded by Welsh Government

Translation generously supported by the Welsh Government.