Skip to content

Gweithgaredd

LEDs sy'n tawelu

Dechreuwr | MakeCode, Python | Dangosydd LED | 3 Iechyd, Animeiddiad, Dilyniant, Iteriad

Cam 1: Gwneud

Beth yw e?

Troi eich micro:bit yn ddyfais ddigidol syml i'ch helpu i ymlacio drwy arafu a rheoleiddio eich anadlu gan ddefnyddio dilyniant animeiddio syml.

Mae'r prosiect hwn yn rhan o gyfres a grëwyd i gynnig gweithgareddau datrys problemau a phrototeipio i archwilio technoleg fel ateb i heriau'r Nodau Byd-eang ar gyfer Datblygiad Cynaliadwy.

Cyflwyniad

Canllaw codio

Sut mae'n gweithio

  • Adeiladu dilyniant animeiddio mewn dolen 'am byth' i barhau i'w redeg.
  • Defnyddio'r eiconau diemwnt parod mawr a bach i greu effaith curo.
  • Ychwanegu blociau oedi i arafu'r animeiddiad i gyflymder ymlaciol.
  • Defnyddio oedi hwy yng nghanol yr animeiddiad, efallai 2 eiliad sy'n 2000 milieiliad.
  • Profi eich cod yn efelychwr MakeCode i sicrhau ei fod yn gweithio yn ôl eich bwriad cyn ei drosglwyddo i'ch micro:bit.

Beth sydd ei angen arnoch

  • micro:bit (neu efelychwr MakeCode)
  • Golygydd MakeCode neu Python
  • pecyn batri (opsiynol)

Cam 2: Codio

1from microbit import *
2
3while True:
4    sleep(2000)
5    display.show(Image('00000:'
6                       '00000:'
7                       '00900:'
8                       '00000:'
9                       '00000'))
10    sleep(500)
11    display.show(Image.DIAMOND_SMALL)
12    sleep(500)
13    display.show(Image.DIAMOND)
14    sleep(2000)
15    display.show(Image.DIAMOND_SMALL)
16    sleep(500)
17    display.show(Image('00000:'
18                       '00000:'
19                       '00900:'
20                       '00000:'
21                       '00000'))
22
23

Cam 3: Gwella

  • Newid yr amserau oedi i gyd-fynd â'r cyflymder anadlu sy'n well gennych.
  • Creu eich delweddau eich hun yn lle'r eiconau diemwnt.
  • Ychwanegu mwy o gamau i wneud eich animeiddiad yn fwy esmwyth.

Ariennir gan Lywodraeth Cymru / Funded by Welsh Government

Translation generously supported by the Welsh Government.