Skip to content

Gweithgaredd

Teclyn olrhain anifeiliaid

Dechreuwr | MakeCode, Python | Mesurydd cyflymiad, Radio | 13 Hinsawdd, 15 Bywyd ar y tir, Cyfathrebu, Mewnbwn/allbwn, Tonnau radio

Cam 1: Gwneud

Beth yw e?

Defnyddio mesurydd cyflymiad a nodweddion radio'r micro:bit i wneud prototeip o ddyfais i helpu gwyddonwyr i olrhain eirth gwynion neu anifeiliaid eraill a dysgu sut mae newid yn yr hinsawdd yn effeithio arnynt.

Mae'r prosiect hwn yn rhan o gyfres a grëwyd i gynnig gweithgareddau datrys problemau a phrototeipio i archwilio technoleg fel ateb i heriau'r Nodau Byd-eang ar gyfer Datblygiad Cynaliadwy.

Cyflwyniad

Canllaw codio

Beth fyddwch yn ei ddysgu

  • Sut i wneud prototeip ar gyfer prosiect mwy
  • Sut gellir defnyddio cyfathrebu radio rhwng dyfeisiau electronig ar gyfer astudiaeth wyddonol

Sut mae'n gweithio

  • Mae'r rhaglen hon yn defnyddio nodwedd radio y micro:bit i greu prototeip ar gyfer olrhain symudiadau anifail. Gallwch ei ddefnyddio yn efelychwr MakeCode neu fflachio'r cod ar 2 micro:bit neu fwy. Byddai un yn cael ei gysylltu â'r anifail, byddai'r llall yn cael ei ddefnyddio gan y gwyddonydd fel derbynnydd.
  • Yn gyntaf, mae'n gosod y grŵp radio i 7. Mae grwpiau fel sianeli, felly sicrhewch fod eich dau micro:bit yn defnyddio'r un grŵp.
  • Os oes sawl un ohonoch yn gwneud y prosiect hwn mewn parau, sicrhewch fod pob pâr yn defnyddio rhif grŵp radio unigryw. Gallwch ddewis unrhyw rif grŵp yr hoffech o 0-255.
  • Mae'n cymryd darlleniadau o'r mesurydd cyflymiad parod ac yn eu trosglwyddo drwy radio.
  • Mae'r derbynnydd yn dangos darlleniadau'r mesurydd cyflymiad ar y dangosydd LED. Mae rhifau mwy yn golygu symudiadau cyflymach. Gallwch ddefnyddio'r rhifau hyn i wneud casgliadau am ymddygiad anifail, er enghraifft os yw'n chwilio am fwyd, cynefin newydd neu'n aros mewn un man i wneud cartref.

Beth sydd ei angen arnoch

  • 2 micro:bit (neu efelychwr MakeCode)
  • Golygydd MakeCode neu Python
  • pecyn batri (opsiynol)

Cam 2: Codio

1from microbit import *
2import radio
3radio.config(group=7)
4radio.on()
5
6while True:
7    radio.send(str(accelerometer.get_y()))
8    message = radio.receive()
9    if message:
10        display.scroll(message)
11    sleep(2000)

Cam 3: Gwella

  • Mae'r rhaglen hon yn mesur symudiad yn yr echelin Y. Gall mesurydd cyflymiad y micro:bit fesur grymoedd mewn cyfeiriadau eraill, a hefyd rhoi darlleniad cyffredinol o gryfder. Arbrofi gan ddefnyddio mesuriadau echelin gwahanol i weld p'un sy'n gweithio orau.
  • Gan ddibynnu ar yr echelin rydych yn ei fesur a sut rydych yn cysylltu synhwyrydd y micro:bit, efallai byddech yn sylwi ar ddarlleniadau hyd yn oed pan fydd yr anifail yn llonydd. Mae hyn oherwydd disgyrchiant y Ddaear, y mae'r micro:bit hefyd yn gallu ei fesur! Sut byddech yn sicrhau na fydd hyn yn effeithio ar eich darlleniadau?
  • Pa synwyryddion eraill ar y micro:bit gallech eu defnyddio i drosglwyddo data ynghylch anifail?
diagram yn dangos 3 echelin mewn perthynas â bwrdd micro:bit

Ariennir gan Lywodraeth Cymru / Funded by Welsh Government

Translation generously supported by the Welsh Government.