Skip to content

Canllaw defnyddiwr

Nodweddion mewn manylder

Archwilio'r gwahanol nodweddion ar eich micro:bit

Mewnbynnau ac allbynnau

Mae mewnbynnau ac allbynnau'n rhan bwysig o unrhyw system gyfrifiadurol. Fel cyfrifiadur bach iawn, mae gan BBC micro:bit ddigon o fewnbynnau ac allbynnau i ddysgu amdanynt a'u defnyddio.

Gwyliwch y fideo i ddysgu mwy am fewnbynnau ac allbynnau, wedyn, dewiswch un o'r prosiectau i ddechrau rhaglennu'r mewnbynnau a'r allbynnau ar eich micro:bit.

Goleuo'ch micro:bit â chariad drwy ddangos calon

Archwilio prosiectau mewnbwn/allbwn

Prosesydd

Weithiau gelwir prosesydd yn ‘ymennydd’ cyfrifiadur ac mae gan eich BBC micro:bit brosesydd micro y tu mewn iddo. Mae'n rhan hanfodol o'ch micro:bit gan ei fod yn rhedeg y rhaglenni rydych yn eu hysgrifennu.

LEDs

Mae LED, neu ddeuod sy'n allyrru golau yn ddyfais allbwn sy'n allyrru golau. Mae gan eich BBC micro:bit ddangosydd o 25 LED i chi ei raglennu.

Gwyliwch y fideo i ddysgu mwy am yr LEDs ar eich micro:bit, wedyn, dewiswch brosiect i ddysgu sut i ddefnyddio LEDs yn eich rhaglenni.

Goleuo'ch micro:bit â chariad drwy ddangos calon

Troi eich micro:bit yn fathodyn enw wedi'i animeiddio

Archwilio prosiectau LED

Botymau

Mae botymau yn ddyfais mewnbwn gyffredin iawn. Mae gan eich micro:bit ddau fotwm gallwch eu rhaglennu, a botwm ailosod.

Dysgu mwy am y botymau ar eich micro:bit trwy wylio'r fideo isod, wedyn, dewiswch un o'r prosiectau i ddysgu sut i raglennu'r botymau ar micro:bit.

Defnyddio botymau i chwarae tonau gwahanol

Archwilio prosiectau botwm

Mesurydd cyflymiad

Mae mesurydd cyflymiad yn synhwyrydd symudiad sy'n mesur symudiad. Mae'r mesurydd cyflymiad yn eich BBC micro:bit yn synhwyro pan fyddwch yn ei wyro o'r chwith i'r dde, yn ôl ac ymlaen ac i fyny ac i lawr.

Mae nifer o ffyrdd gallwch ddefnyddio'r mesurydd cyflymiad yn eich prosiectau. Dysgu mwy am sut mae'n gweithio drwy wylio'r fideo, wedyn, dewiswch brosiect i ddechrau arni.

Gwneud eich rhifydd camau eich hun gyda micro:bit

Gwneud tegan a fydd yn dweud eich ffortiwn

Archwilio prosiectau mesurydd cyflymiad

Synhwyrydd tymheredd

Mae synhwyrydd tymheredd yn ddyfais mewnbwn sy'n mesur tymheredd. Mae gan eich BBC micro:bit synhwyrydd tymheredd y tu mewn i'r prosesydd a all roi brasamcan o dymheredd yr aer i chi.

Dysgu mwy am y synhwyrydd tymheredd ar eich micro:bit drwy wylio'r fideo, wedyn, dewiswch un o'r prosiectau i raglennu'r synhwyrydd tymheredd.

Gwneud thermomedr syml â'ch micro:bit

Archwilio prosiectau tymheredd

Synhwyrydd golau

Mae synhwyrydd golau yn ddyfais mewnbwn sy'n mesur lefelau golau. Mae eich BBC micro:bit yn defnyddio'r LEDs i synhwyro lefelau'r golau ac yn eich galluogi i raglennu'ch micro:bit fel synhwyrydd golau.

Gwyliwch y fideo i ddysgu mwy, wedyn, dewiswch un o'r prosiectau i droi eich micro:bit yn synhwyrydd golau.

Creu golau sy'n troi ei hun ymlaen pan fydd yn dywyll

Gwneud larwm sy'n canu pan fydd y goleuadau'n troi ymlaen

Archwilio prosiectau synhwyrydd golau

Cwmpawd

Mae cwmpawd digidol yn synhwyrydd mewnbwn sy'n synhwyro meysydd magnetig. Mae gan eich BBC micro:bit gwmpawd parod sy'n gallu synhwyro'r cyfeiriad y mae'n ei wynebu.

Gwyliwch y fideo i ddysgu mwy, wedyn, dewiswch brosiect i ddechrau defnyddio'ch micro:bit fel cwmpawd.

Archwilio prosiectau cwmpawd

Os oes gennych y micro:bit newydd, gallwch ddefnyddio'r logo aur fel mewnbwn arall yn eich prosiectau. Mae fel cael botwm ychwanegol.

Mae'r logo cyffwrdd yn defnyddio cyffwrdd cynhwysaidd, gan synhwyro newidiadau bach mewn meysydd trydanol i wybod pryd mae'ch bys yn ei wasgu - yn union fel sgrin eich ffôn neu dabled.

Gallwch sbarduno digwyddiadau yn eich rhaglenni pan fyddwch yn ei wasgu fel botwm, ond hefyd pan fyddwch yn ei gyffwrdd am y tro cyntaf, pan fyddwch yn ei ryddhau ac os byddwch yn ei wasgu am fwy o amser.

Archwilio prosiectau logo cyffwrdd

Sain

Gellir rhaglennu eich BBC micro:bit i wneud amrywiaeth eang o seiniau - o nodiadau, tonau a churiadau unigol i'ch cyfansoddiadau cerddorol eich hun.

Dysgu mwy trwy wylio'r fideo, wedyn dewiswch brosiect i ddechrau gwneud seiniau a cherddoriaeth â'ch micro:bit.

Archwilio prosiectau sain

Seinydd - newydd

Mae gan y micro:bit newydd seinydd parod, sy'n ei gwneud hi'n hawdd iawn ychwanegu sain at eich prosiectau. Bydd unrhyw brosiect sain micro:bit yn gweithio gyda'r seinydd, ond gyda'r micro:bit newydd gallwch hefyd fynegi'ch hun â seiniau newydd: gwneud i'ch micro:bit biffian chwerthin, eich cyfarch neu roi gwybod i chi pan fydd yn gysglyd neu'n drist.

Gallwch hefyd dawelu'r seinydd a bydd sain yn parhau i ddod allan o'r pinnau fel y gallwch barhau i fwynhau cerddoriaeth micro:bit ar glustffonau sy'n gysylltiedig â GND a phin 0. Yn MakeCode, defnyddiwch y bloc cerddoriaeth 'diffodd y seinydd parod'.

Archwilio prosiectau sain

Meicroffon - newydd

Mae gan y micro:bit newydd feicroffon parod. Gallwch ei ddefnyddio fel mewnbwn syml - gwneud i'ch micro:bit droi'r goleuadau ymlaen pan fyddwch yn clapio. Gall hefyd fesur maint sain, fel y gallwch wneud mesurydd lefel sŵn neu oleuadau disgo sy'n curo mewn amser gyda'r gerddoriaeth.

Mae'r meicroffon ar gefn y micro:bit newydd, ac ar y blaen byddwch yn dod o hyd i LED meicroffon newydd wrth ymyl y twll sy'n gadael i'r sain ddod i mewn. Mae'n goleuo i ddangos i chi pan fydd eich micro:bit yn mesur lefelau sain.

Archwilio prosiectau meicroffon

Radio

Mae radio yn ffordd o anfon a derbyn negeseuon a gall BBC micro:bits ddefnyddio tonnau radio i gyfathrebu â'i gilydd.

Gwyliwch y fideo i ddysgu mwy am y nodwedd radio ar eich micro:bit, wedyn dewiswch un o'r prosiectau i roi cynnig arni.

Archwilio prosiectau radio

Pinnau

Ar ymyl waelod eich BBC micro:bit, mae 25 stribed aur, a elwir yn binnau. Mae'r pinnau hyn yn caniatáu i chi fod yn greadigol iawn. Gallwch greu cylchedau, cysylltu pethau allanol megis swnwyr a moduron a gwneud eich prosiectau llawn hwyl eich hun.

Gwyliwch y fideo i ddysgu mwy am y pinau a dewiswch brosiect i fynd â'ch creadau micro:bit i'r lefel nesaf!

Rhyngwyneb USB

Defnyddir USBs, neu Fysiau Cyfresol Cyffredinol, i gysylltu, cyfathrebu a phweru cyfrifiaduron a dyfeisiau digidol.

Mae gan y BBC micro:bit ryngwyneb USB i'ch galluogi i gysylltu'ch cyfrifiadur â'ch micro:bit gan ddefnyddio cebl USB micro a phweru eich micro:bit.

Gwyliwch y fideo i ddysgu mwy am y rhyngwyneb USB ar y micro:bit.

Ariennir gan Lywodraeth Cymru / Funded by Welsh Government

Translation generously supported by the Welsh Government.