Skip to content

Gweithgaredd

Profwr dargludedd

Canolradd | MakeCode | Dangosydd LED, Pinnau, Sain | Dewis, Iteriad, Trydan

Cam 1: Gwneud

Beth yw e?

Defnyddiwch eich micro:bit gyda dau gebl clip crocodeil i weld a yw deunydd yn dargludo trydan - ffordd syml o gynnal arbrawf gwyddoniaeth glasurol!

Sut i'w ddefnyddio

  • Trosglwyddwch y cod isod i'ch micro:bit, neu gwyliwch y fideo codio uchod os ydych chi am greu'r cod eich hun.
  • Ar waelod micro:bit mae pum pin mawr. Pan fyddwch chi'n cysylltu pin 1 a'r pin GND neu ddaear â chebl clip crocodeil, mae'n cwblhau cylched drydanol.
  • Nodyn diogelwch - peidiwch byth â chysylltu'r pinnau GND a 3V yn uniongyrchol â'i gilydd neu fe allech chi niweidio'ch micro:bit.
  • Os byddwch chi'n cysylltu dau gebl clip crocodeil, un i bin 1 ac un i'r pin GND, gallwch chi roi deunydd fel ffoil arian neu cling fflim rhwng pennau'r ddau gebl i brofi a yw'r deunydd yn ddargludol neu'n inswleiddiwr.

Sut mae'n gweithio

  • Mae'r prosiect yn defnyddio dewis. Os gwneir cylched drydanol (oherwydd bod y defnydd yn dargludo) yna bydd y micro:bit yn dangos calon ar ei sgrîn LED ac yn chwarae'r nodyn C Ganol.
  • Fel arall, os na wneir cylched, bydd y micro:bit yn clirio ei sgrîn LED ac ni fydd nodyn yn chwarae - mae'r micro:bit yn cael ei gyfarwyddo i chwarae nodyn ar amledd o 0Hz.
  • Mae'r rhaglen yn defnyddio dolen am byth neu ddiddiwedd i barhau i brofi nes i chi ddatgysylltu'ch micro:bit o gyflenwad pŵer.

Beth sydd ei angen arnoch

  • micro:bit (neu efelychydd MakeCode)
  • Golygydd MakeCode
  • pecyn batri (dewisol ond argymhellir)
  • efallai y bydd ein fideo cyflwyno pinnau yn ddefnyddiol

Efallai byddwch chi'n hoffi

Gellir defnyddio'r daflen gofnodi profwr Dargludedd i gofnodi pa ddeunyddiau sy'n dargludo a pha rai nad ydynt mewn ystafell ddosbarth neu glwb codio.

Taflen gofnodi profwr dargludedd
Lawrlwythwch y daflen gofnodi

Cam 2: Codio

1from microbit import *
2import music
3
4while True:
5    if pin1.is_touched():
6        display.show(Image.HEART)
7        music.play('c')
8    else:
9        display.clear()

Cam 3: Gwella

  • Addaswch y cod i ddangos eicon gwahanol neu chwarae sain wahanol os yw'r deunydd yn ddargludol.
  • Rhowch gynnig ar ystod eang o ddeunyddiau gyda'ch profwr dargludedd fel graffit pensil, PlayDoh, a phapur sidan sych a llaith.
  • Gall fod yn hwyl defnyddio bod dynol fel y deunydd prawf! Yn syml, daliwch y ceblau clip crocodeil yn eich dwy law, neu ffurfiwch gadwyn ddynol.