Skip to content

Gweithgaredd

Bathodyn emosiwn sain

Dechreuwr | MakeCode, Python | Botymau, Dangosydd LED, Logo cyffwrdd, Seinydd | Haniaethu, Mewnbwn/allbwn

Cam 1: Gwneud

Beth yw e?

Gwneud bathodyn emosiwn sy'n mynegi eich teimladau mewn seiniau yn ogystal â lluniau.

Cyflwyniad

Canllaw codio

Beth fyddwch yn ei ddysgu

  • Sut i ddefnyddio seiniau parod y micro:bit newydd fel allbynnau i ychwanegu personoliaeth a mynegiant at eich prosiectau.

Sut mae'n gweithio

  • Gall y micro:bit gyda seinydd parod chwarae seiniau mynegiannol newydd. Bydd y prosiect hwn yn chwarae sain hapus pan fyddwch yn gwasgu botwm mewnbwn A i gyd-fynd â'r eicon hapus ar allbwn y dangosydd LED.
  • Bydd yn chwarae sain drist pan fyddwch yn gwasgu botwm B i gyd-fynd â'r eicon wyneb trist.
  • Pan fyddwch yn gwasgu'r logo cyffwrdd, bydd yn chwarae'r sain 'neidio' i gyd-fynd â'r wyneb syn ar y dangosydd LED.

Beth sydd ei angen arnoch

  • micro:bit newydd gyda sain (neu efelychwr MakeCode)
  • Golygydd MakeCode neu Python
  • pecyn batri (opsiynol)

Cam 2: Codio

1from microbit import *
2import audio
3
4while True:
5    if button_a.is_pressed():
6        display.show(Image.HAPPY)
7        audio.play(Sound.HAPPY)
8    if button_b.is_pressed():
9        display.show(Image.SAD)
10        audio.play(Sound.SAD)
11    if pin_logo.is_touched():
12        display.show(Image.SURPRISED)
13        audio.play(Sound.SPRING)

Cam 3: Gwella

  • Arbrofi gyda'r gwahanol seiniau mynegiannol newydd megis 'piffian chwerthin', 'helo' a 'disgleirio'.
  • Addasu'r rhaglen gydag eiconau gwahanol emosiynau neu dynnu llun eich eiconau eich hun.
  • Ychwanegu animeiddiad i gyd-fynd â phob mynegiant.

Ariennir gan Lywodraeth Cymru / Funded by Welsh Government

Translation generously supported by the Welsh Government.