Skip to content

Gweithgaredd

Anfon gwên

Dechreuwr | MakeCode, Python | Botymau, Dangosydd LED, Radio | 3 Iechyd, Cyfathrebu, Mewnbwn/allbwn, Tonnau radio

Cam 1: Gwneud

Beth yw e?

Mae rhannu a derbyn caredigrwydd yn ffordd dda o gefnogi eich lles a lles eich ffrindiau. Creu rhaglen sy'n defnyddio radio i anfon gwên o un micro:bit i micro:bit arall i gefnogi ffrind.

Mae'r prosiect hwn yn rhan o gyfres a grëwyd i gynnig gweithgareddau datrys problemau a phrototeipio i archwilio technoleg fel ateb i heriau'r Nodau Byd-eang ar gyfer Datblygiad Cynaliadwy.

Cyflwyniad

Canllaw codio

Beth fyddwch yn ei ddysgu

  • Sut mae cyfathrebiadau radio rhwng dyfeisiau electronig yn defnyddio protocolau i sicrhau bod negeseuon yn cael eu llwybro'n gywir
  • Sut y gellir defnyddio technoleg a chyfathrebiadau electronig er gwell

Sut mae'n gweithio

  • Mae'r rhaglen hon yn defnyddio nodwedd radio y micro:bit i rannu gwên. Gallwch ei defnyddio yn yr efelychwr MakeCode neu fflachio'r cod ar 2 neu fwy o micro:bits.
  • Yn gyntaf, mae'n gosod y grŵp radio i 2. Mae grwpiau yn gweithio fel sianeli, felly bydd unrhyw micro:bit sy'n defnyddio'r un grŵp yn derbyn y wên. Gallwch ddefnyddio unrhyw rif grŵp o'ch dewis rhwng 0 a 255.
  • Pan fyddwch yn gwasgu botwm A, bydd yn anfon neges destun radio 'gwên'. Bydd hefyd yn clirio'r sgrin er mwyn i chi allu anfon gwên arall.
  • Pan fydd yn derbyn neges radio, bydd yn dangos emoji gwên ar y dangosydd LED.
  • Mae cyfuno'r grŵp radio a thestun y neges radio a anfonwyd yn creu protocol: set o reolau ar gyfer sut mae dwy ddyfais yn cyfathrebu.

Beth sydd ei angen arnoch

  • 2 micro:bit (neu efelychwr MakeCode)
  • Golygydd MakeCode neu Python
  • pecyn batri (opsiynol)

Cam 2: Codio

1from microbit import *
2import radio
3radio.config(group=2)
4radio.on()
5
6while True:
7    message = radio.receive()
8    if message:
9        display.show(Image.HAPPY)
10    if button_a.is_pressed():
11        display.clear()
12        radio.send('smile')

Cam 3: Gwella

  • Addasu'r wyneb hapus i ddefnyddio eich wyneb hapus eich hun.
  • Os byddwch yn gweithio mewn parau mewn dosbarth, dewis eich rhifau grŵp radio unigryw eich hun ar gyfer pob pâr o fyfyrwyr er mwyn anfon negeseuon at eich partner, ond nid at unrhyw un arall.
  • Gallech wneud hynny hefyd drwy gadw'r un grŵp radio ond addasu'r cod er mwyn i'r neges destun a anfonir fod yn unigryw ar gyfer eich pâr. Addasu'r cod er mwyn iddo ddangos gwên yn unig os derbynnir y neges gywir.
  • Sut allech anfon emoji gwahanol os byddwch yn gwasgu botwm B?

Ariennir gan Lywodraeth Cymru / Funded by Welsh Government

Translation generously supported by the Welsh Government.