Cam 1: Gwneud
Beth yw e?
Mae rhannu a derbyn caredigrwydd yn ffordd dda o gefnogi eich lles a lles eich ffrindiau. Creu rhaglen sy'n defnyddio radio i anfon gwên o un micro:bit i micro:bit arall i gefnogi ffrind.
Mae'r prosiect hwn yn rhan o gyfres a grëwyd i gynnig gweithgareddau datrys problemau a phrototeipio i archwilio technoleg fel ateb i heriau'r Nodau Byd-eang ar gyfer Datblygiad Cynaliadwy.
Cyflwyniad
Canllaw codio
Beth fyddwch yn ei ddysgu
- Sut mae cyfathrebiadau radio rhwng dyfeisiau electronig yn defnyddio protocolau i sicrhau bod negeseuon yn cael eu llwybro'n gywir
- Sut y gellir defnyddio technoleg a chyfathrebiadau electronig er gwell
Sut mae'n gweithio
- Mae'r rhaglen hon yn defnyddio nodwedd radio y micro:bit i rannu gwên. Gallwch ei defnyddio yn yr efelychwr MakeCode neu fflachio'r cod ar 2 neu fwy o micro:bits.
- Yn gyntaf, mae'n gosod y grŵp radio i 2. Mae grwpiau yn gweithio fel sianeli, felly bydd unrhyw micro:bit sy'n defnyddio'r un grŵp yn derbyn y wên. Gallwch ddefnyddio unrhyw rif grŵp o'ch dewis rhwng 0 a 255.
- Pan fyddwch yn gwasgu botwm A, bydd yn anfon neges destun radio 'gwên'. Bydd hefyd yn clirio'r sgrin er mwyn i chi allu anfon gwên arall.
- Pan fydd yn derbyn neges radio, bydd yn dangos emoji gwên ar y dangosydd LED.
- Mae cyfuno'r grŵp radio a thestun y neges radio a anfonwyd yn creu protocol: set o reolau ar gyfer sut mae dwy ddyfais yn cyfathrebu.
Beth sydd ei angen arnoch
- 2 micro:bit (neu efelychwr MakeCode)
- Golygydd MakeCode neu Python
- pecyn batri (opsiynol)
Cam 2: Codio
Cam 3: Gwella
- Addasu'r wyneb hapus i ddefnyddio eich wyneb hapus eich hun.
- Os byddwch yn gweithio mewn parau mewn dosbarth, dewis eich rhifau grŵp radio unigryw eich hun ar gyfer pob pâr o fyfyrwyr er mwyn anfon negeseuon at eich partner, ond nid at unrhyw un arall.
- Gallech wneud hynny hefyd drwy gadw'r un grŵp radio ond addasu'r cod er mwyn i'r neges destun a anfonir fod yn unigryw ar gyfer eich pâr. Addasu'r cod er mwyn iddo ddangos gwên yn unig os derbynnir y neges gywir.
- Sut allech anfon emoji gwahanol os byddwch yn gwasgu botwm B?
This content is published under a Creative Commons Attribution-ShareAlike 4.0 International (CC BY-SA 4.0) licence.
Translation generously supported by the Welsh Government.