Cam 1: Gwneud
Beth yw e?
Chwarae'r gêm glasurol hon â dau micro:bit a dysgu am ddewis, newidynnau a rhifau ar hap ar yr un pryd.
Mae'r ddau fideo hyn yn dangos i chi yr hyn y byddwch yn ei greu a sut i'w godio:
Cyflwyniad
Canllaw codio
Sut mae'n gweithio
- Mae carreg, papur, siswrn yn gêm hapchwarae glasurol ar gyfer dau. Rydych chi a phartner yn ysgwyd eich dyrnau dair gwaith ac yna'n gwneud ystumiau ar hap i ddangos carreg, papur neu siswrn. Mae carreg yn trechu siswrn, mae siswrn yn trechu papur ac mae papur yn trechu carreg (drwy lapio'r garreg!).
- Pan fydd mesurydd cyflymiad y micro:bit yn canfod symudiad ysgwyd, bydd yn gosod offeryn y newidyn i rif ar hap: 0, 1 neu 2.
- Rydym yn defnyddio 0 gan fod cyfrifiaduron yn cychwyn rhifo o 0, ac mae'n dda gofio bod 0 yn rhif!
- Mae'r rhaglen yn defnyddio dewis i benderfynu pa ddelwedd i'w dangos ar y dangosydd LED. Os mai 0 oedd y rhif ar hap, bydd yn dangos eicon carreg, os mai 1 oedd y rhif, bydd yn dangos yr eicon sy'n cynrychioli papur. Os nad yw'n 0 neu 1, mae'n rhaid iddo fod yn 2 gan ein bod wedi dweud wrth y micro:bit am ddewis rhifau ar hap rhwng 0 a 2 yn unig, felly yn yr achos hwnnw bydd yn dangos siswrn.
Beth sydd ei angen arnoch
- 2 micro:bit (neu efelychwr MakeCode)
- Golygydd MakeCode neu Python
- pecynnau batri (opsiynol)
- partner i chwarae ag ef/hi
Cam 2: Codio
Cam 3: Gwella
- Dylunio eich eiconau eich hun ar gyfer carreg, papur a siswrn.
- Meddyliwch am bethau eraill y gellid eu defnyddio yn lle carreg, papur a siswrn, neu crëwch reolau newydd.
- Defnyddio swyddogaeth radio'r micro:bit i wneud gêm sy'n gwybod a ydych wedi ennill neu golli drwy gyfathrebu â micro:bit eich ffrind.
This content is published under a Creative Commons Attribution-ShareAlike 4.0 International (CC BY-SA 4.0) licence.
Translation generously supported by the Welsh Government.