Skip to content

Gweithgaredd

Grŵp hwyaden yn telegludo

Canolradd | MakeCode, Python | Mesurydd cyflymiad, Radio | Cyfathrebu, Rhesymeg Boolean, Tonnau radio

Cam 1: Gwneud

Beth yw e?

Gêm grŵp 'taten boeth' gan ddefnyddio radio - neu hwyaden boeth!

3 micro:bit, 1 yn cael ei ysgwyd ac yn dangos hwyaden ar ei ddangosydd LED

Sut mae'n gweithio

  • Fel y gêm Hwyaden yn telegludo, mae'n defnyddio radio i anfon 'hwyaden' drwy'r awyr rhwng micro:bits. Mae'r gêm honno ddim ond yn gweithio gyda 2 chwaraewr gan ei bod yn anfon yr un neges at bawb - yn fuan byddech yn gweld bod gan bron bawb hwyaden a gallai unrhyw un daflu un.
  • Os oes gennych fwy na 2 chwaraewr bydd angen i bob micro:bit fod â ffordd o ddewis pa chwaraewr fydd yn cael yr hwyaden fel bod gan raglen pob chwaraewr rif adnabod unigryw, gan ddechrau gydag 1.
  • Rydym yn cadw hwn mewn newidyn a elwir yn ID, a bydd angen i chi newid hwn i 2, 3, 4 ayyb ar gyfer pob chwaraewr cyn fflachio'r rhaglen ar eu micro:bits.
  • Gosod y newidyn players i'r nifer o bobl i sicrhau bod gan bawb gyfle i gael yr hwyaden. Mae'r rhaglen yn dangos rhif adnabod y chwaraewr ar y dangosydd LED ar y dechrau fel eich bod yn gwybod pwy sydd â pha rif.
  • I sicrhau mai dim ond y chwaraewr sydd â'r hwyaden sy'n gallu ei thaflu, bydd y rhaglen yn anfon neges yn unig pan fyddwch yn ei hysgwyd os oes gennych yr hwyaden. Mae'n olrhain hyn gan ddefnyddio newidyn Boolean o'r enw hasDuck. Gall fod gan newidynnau Boolean ddau werth yn unig: Gwir neu Gau. I ddechrau, dim ond chwaraewr 1 sydd â'r hwyaden, ni all neb arall ei thaflu.
  • Pan fydd chwaraewr 1 yn ysgwyd ei micro:bit, bydd y rhaglen yn cynhyrchu rhif ar hap rhwng 1 a'r nifer o chwaraewyr. Os nad yw'r rhif ar hap yn hafal i'w rhif adnabod ei hun, bydd yn anfon y rhif adnabod newydd drwy radio, yn clirio ei sgrin ac yn gosod ei newidyn hasDuck i Gau.
  • Os yw'r rhif ar hap yn hafal i'w rhif adnabod ei hun, bydd angen iddi daflu eto ond mae'n well nag anfon yr hwyaden ati hi ei hun - a mynd ar goll yn y goruwchofod!
  • Os bydd eich micro:bit yn derbyn rhif, bydd yn gwirio i weld os yw'n hafal i (yn cyfateb) i'ch rhif adnabod. Os ydyw, llongyfarchiadau, chi sydd â'r hwyaden bellach! Mae hwyaden yn ymddangos ar eich dangosydd LED, a gosodir eich newidyn hasDuck i Gwir, sy'n golygu y gallwch nawr daflu'r hwyaden i rywun arall.
  • Taflwch hwyaid yn gyfrifol: sicrhewch na fyddwch yn gollwng eich micro:bit neu daro ffrind wrth i chi fwynhau'r gêm hon.

Beth sydd ei angen arnoch

  • 3 micro:bit neu fwy
  • Golygydd MakeCode neu Python
  • pecynnau batri (opsiynol)
  • grŵp o bobl i chwarae gyda nhw

Cam 2: Codio

1from microbit import *
2import radio
3import random
4
5radio.config(group=42)
6players = 3
7ID = 3
8display.show(ID)
9if ID == 1:
10    hasDuck = True
11else:
12    hasDuck = False
13radio.on()
14
15while True:
16    message = radio.receive()
17    if accelerometer.was_gesture('shake'):
18        if hasDuck:
19            sendTo = random.randint(1, players)
20            if sendTo != ID:
21                display.clear()
22                radio.send(str(sendTo))
23    if message:
24        if message == str(ID):
25            hasDuck = True
26            display.show(Image.DUCK)
27        else:
28            hasDuck = False
29    

Cam 3: Gwella

  • Newid y rhaglen i anfon pethau eraill yn lle hwyaid.
  • Ar hyn o bryd, os bydd yn dewis rhif ar hap sydd yr un peth â'ch rhif adnabod eich hun, bydd rhaid i chi ei ysgwyd eto. Addasu'r rhaglen fel na fydd hyn fyth yn digwydd. Efallai bod mwy nag un ffordd o wneud hyn.
  • Mae gan chwaraewr 1 yr hwyaden bob amser ar ddechrau'r gêm. Allech wella'r rhaglen i ddewis y chwaraewr cyntaf â'r hwyaden ar hap? Sut y byddech yn cyfathrebu hyn â micro:bit pob chwaraewr?
Ariennir gan Lywodraeth Cymru / Funded by Welsh Government

Translation generously supported by the Welsh Government.