Skip to content

Gweithgaredd

Gitâr 1 - tonau cyffwrdd

Uwch | MakeCode, Python | Pinnau, Sain | Electroneg, Mewnbwn/allbwn, Sain, Trydan

Cam 1: Gwneud

Beth yw e?

Y cam cyntaf tuag at wneud gitâr micro:bit: chwarae gwahanol donau drwy ddefnyddio synhwyrydd cyffwrdd y micro:bit.

Mae'r ddau fideo hyn yn dangos i chi yr hyn y byddwch yn ei greu a sut i'w godio:

Cyflwyniad

Canllaw codio

Sut mae'n gweithio

  • Mae hwn fel y Prosiect Jiwcbocs, ond yn lle defnyddio botymau'r micro:bit, byddwch yn gwneud eich dyfais fewnbwn eich hun, botymau cyffwrdd sy'n defnyddio ceblau clipiau crocodeil a ffoil tun wedi'u cysylltu â phinnau'r micro:bit.
  • Fflachiwch y rhaglen ar eich micro:bit. Cysylltwch glustffonau â phin 0 a GND fel y gallwch glywed sain - gweler Prosiect gwneud ychydig o sŵn i gael manylion.
  • Cysylltwch glipiau crocodeil â phinnau 1, 2 ac un arall i GND. Ag un bys, cyffyrddwch â'r GND a defnyddiwch fys arall i gyffwrdd â'r gwifrau sydd wedi'u cysylltu â phin 1 ac wedyn pin 2. Dylai chwarae tôn wahanol gan ddibynnu ar ba bin rydych yn ei gyffwrdd.
llun yn dangos sut i gysylltu padiau ffoil arian â phinnau micro:bit 1, 2 a GND
  • Mae'r micro:bit yn defnyddio pin 0 fel allbwn analog, gan amrywio'r signal trydanol i wneud sain (sŵn). Mae'n defnyddio pinnau 1 a 2 fel mewnbynnau cyffwrdd. Pan fyddwch yn cyffwrdd ag un o'r pinnau hyn a'r pin GND (daear), byddwch yn cwblhau cylched drydanol. Mae ychydig bach o drydan yn llifo drwoch a gall y micro:bit ei synhwyro ac bydd y rhaglen yn sbarduno chwarae tôn.

Beth sydd ei angen arnoch

  • micro:bit a phecyn batri opsiynol
  • Golygydd MakeCode neu Python
  • clustffonau, swnyn neu seinydd wedi'i bweru
  • 5 cebl clip crocodeil
  • cardfwrdd, ffoil tun, glud, a siswrn opsiynol i wneud gitâr neu allweddell

Cam 2: Codio

Cam 3: Gwella

  • Gwneud botymau cyffwrdd gan ddefnyddio ffoil tun a chardfwrdd. Siapio'r ffoil tun a'r cardfwrdd i edrych fel allweddell neu gitâr.
  • Newid y tonau sy'n cael eu chwarae pan fyddwch yn cyffwrdd â'r ffoil tun.
  • Rhaglennu eich tonau eich hun.
Ariennir gan Lywodraeth Cymru / Funded by Welsh Government

Translation generously supported by the Welsh Government.