Cam 1: Gwneud
Beth yw e?
Prosiect syml i'ch helpu i rifo... sgipiadau, neidiau, adar rydych yn eu gweld allan o'ch ffenestr - unrhyw beth!
Mae'r ddau fideo hyn yn dangos i chi yr hyn y byddwch yn ei greu a sut i'w godio:
Cyflwyniad
Canllaw codio
Sut mae'n gweithio
- Mae'r rhaglen hon yn defnyddio newidyn a elwir yn 'count' i olrhain y rhif rydych yn ei rifo.
- Mae'n gosod y newidyn i 0 ar y dechrau.
- Bob tro y byddwch yn gwasgu botwm B, bydd yn cynyddu y newidyn rhifo gan 1 ac yn ei ddangos ar y dangosydd LED.
- Ni fydd rhifau dros 9 yn aros ar y dangosydd, felly bydd gwasgu botwm A yn dangos y rhif.
- Gallwch ailosod y rhifydd wrth wasgu botymau A a B gyda'i gilydd.
Beth sydd ei angen arnoch
- micro:bit (neu efelychwr MakeCode)
- Golygydd MakeCode
- pecyn batri (opsiynol)
Cam 2: Codio
1from microbit import *
2
3count = 0
4display.show(count)
5
6while True:
7 if button_a.is_pressed() and button_b.is_pressed():
8 count = 0
9 display.scroll(count)
10 elif button_b.is_pressed():
11 count += 1
12 display.scroll(count)
13 elif button_a.is_pressed():
14 display.scroll(count)
15 sleep(100)
Cam 3: Gwella
- Dod o hyd i ffordd arall o ailosod y rhifydd, er enghraifft drwy ysgwyd y micro:bit.
- Dangos y rhif yn raffigol - defnyddio siart bar neu ddotiau.
- Dangos calon neu lun arall pan fyddwch yn cyrraedd rhif penodol - gallai fod eich targed ar gyfer neidiau seren neu weithgaredd arall.
- Defnyddio radio i anfon rhif y rhifydd i micro:bit arall sy'n gweithredu fel dangosydd o bell.
This content is published under a Creative Commons Attribution-ShareAlike 4.0 International (CC BY-SA 4.0) licence.
Translation generously supported by the Welsh Government.