Skip to content

Gweithgaredd

Rhifydd

Dechreuwr | MakeCode, Python | Botymau, Dangosydd LED | 15 Bywyd ar y tir, Mewnbwn/allbwn, Newidynnau

Cam 1: Gwneud

Beth yw e?

Prosiect syml i'ch helpu i rifo... sgipiadau, neidiau, adar rydych yn eu gweld allan o'ch ffenestr - unrhyw beth!

Mae'r ddau fideo hyn yn dangos i chi yr hyn y byddwch yn ei greu a sut i'w godio:

Cyflwyniad

Canllaw codio

Sut mae'n gweithio

  • Mae'r rhaglen hon yn defnyddio newidyn a elwir yn 'count' i olrhain y rhif rydych yn ei rifo.
  • Mae'n gosod y newidyn i 0 ar y dechrau.
  • Bob tro y byddwch yn gwasgu botwm B, bydd yn cynyddu y newidyn rhifo gan 1 ac yn ei ddangos ar y dangosydd LED.
  • Ni fydd rhifau dros 9 yn aros ar y dangosydd, felly bydd gwasgu botwm A yn dangos y rhif.
  • Gallwch ailosod y rhifydd wrth wasgu botymau A a B gyda'i gilydd.

Beth sydd ei angen arnoch

  • micro:bit (neu efelychwr MakeCode)
  • Golygydd MakeCode
  • pecyn batri (opsiynol)

Cam 2: Codio

1from microbit import *
2
3count = 0
4display.show(count)
5
6while True:
7    if button_a.is_pressed() and button_b.is_pressed():
8        count = 0
9        display.scroll(count)
10    elif button_b.is_pressed():
11        count += 1
12        display.scroll(count)
13    elif button_a.is_pressed():
14        display.scroll(count)
15    sleep(100)

Cam 3: Gwella

  • Dod o hyd i ffordd arall o ailosod y rhifydd, er enghraifft drwy ysgwyd y micro:bit.
  • Dangos y rhif yn raffigol - defnyddio siart bar neu ddotiau.
  • Dangos calon neu lun arall pan fyddwch yn cyrraedd rhif penodol - gallai fod eich targed ar gyfer neidiau seren neu weithgaredd arall.
  • Defnyddio radio i anfon rhif y rhifydd i micro:bit arall sy'n gweithredu fel dangosydd o bell.
Ariennir gan Lywodraeth Cymru / Funded by Welsh Government

Translation generously supported by the Welsh Government.