Cam 1: Gwneud
Beth yw e?
Troi eich micro:bit yn rhifydd camau (neu fesurydd camau) i'ch helpu i olrhain pa mor actif ydych chi - a dysgu ychydig am godio ar yr un pryd!
Mae'r ddau fideo hyn yn dangos i chi yr hyn y byddwch yn ei greu a sut i'w godio:
Cyflwyniad
Canllaw codio
Sut mae'n gweithio
- Fel y Prosiect Dis mae'r rhaglen hon yn defnyddio mesurydd cyflymiad y micro:bit i wneud i rywbeth ddigwydd.
- Mae'n cyfrif y nifer o weithiau mae'r micro:bit wedi'i ysgwyd. Mae'n storio'r rhif hwn mewn newidyn a elwir yn ‘camau’.
- Mae cyfrifiaduron yn defnyddio newidynnau i storio gwybodaeth a allai newid, fel nifer y camau rydych wedi'u cymryd.
- Bob tro mae mewnbwn mesurydd cyflymiad y micro:bit yn synhwyro ysgwyd, bydd y rhaglen yn cynyddu'r newidyn gan 1, ac yn dangos y rhif newydd ar allbwn dangosydd yr LED.
Beth sydd ei angen arnoch
- micro:bit (neu efelychwr MakeCode)
- Golygydd MakeCode neu Python
- pecyn batri (opsiynol)
- rhywbeth i gysylltu'r micro:bit â'ch esgid neu'ch coes - llinyn, tâp neu felcro.
Cam 2: Codio
Cam 3: Gwella
- Ychwanegu botwm i ailosod y camau i 0.
- Ychwanegu cynrychiolaeth graffigol o nifer y camau rydych wedi'u cymryd.
- Mesur hyd eich cam cyfartalog a gwneud i'ch micro:bit luosi hyn â nifer y camau i gyfrifo'r pellter rydych wedi'i gerdded.

This content is published under a Creative Commons Attribution-ShareAlike 4.0 International (CC BY-SA 4.0) licence.

Translation generously supported by the Welsh Government.