Skip to content

Gweithgaredd

Dis

Dechreuwr | MakeCode, Python | Dangosydd LED, Mesurydd cyflymiad | Ar hap, Mewnbwn/allbwn, Rhif a gwerth lle, Synwyryddion, Tebygolrwydd

Cam 1: Gwneud

Beth yw e?

Ysgwyd eich micro:bit i wneud rhifau ar hap.

Mae'r ddau fideo hyn yn dangos i chi yr hyn y byddwch yn ei greu a sut i'w godio:

Cyflwyniad

Canllaw codio

Sut mae'n gweithio

  1. Fel y Prosiect Bod yn wirion mae'r rhaglen yn defnyddio mesurydd cyflymiad y micro:bit i wneud i rywbeth ddigwydd pan fyddwch yn ei ysgwyd.
  2. Pan fyddwch yn ysgwyd eich micro:bit, bydd y rhaglen yn dewis rhif ar hap rhwng 1 a 6 ac yn ei ddangos ar y dangosydd LED.
  3. Mae'n wirioneddol anodd i gyfrifiaduron wneud rhifau sydd wirioneddol ar hap oherwydd eu bod yn beiriannau sy'n gweithio'n fanwl gywir ac yn rheolaidd.
  4. Gwneud siart cyfrif o ba mor aml y mae pob rhif yn ymddangos. A yw'r rhifau hyn wir ar hap? Cymharu hyn â dis go iawn.

Beth sydd ei angen arnoch

  • micro:bit (neu efelychwr MakeCode)
  • Golygydd MakeCode neu Python
  • pecyn batri (opsiynol)
  • dis go iawn (opsiynol)

Cam 2: Codio

1from microbit import *
2import random
3
4while True:
5    if accelerometer.was_gesture('shake'):
6        display.show(random.randint(1, 6))

Cam 3: Gwella

  • Gwneud i'r rhif ymddangos am ychydig o eiliadau, wedyn clirio'r danosydd LED i arbed batrïau.
  • Gwneud iddo rolio 2 ddis. Gallwch wneud rhif ar hap rhwng 2 a 12, neu gallwch wneud dau rif ar hap rhwng 1 a 6 a'u hadio gyda'i gilydd.
  • Rhowch gynnig ar y ddau ddull a chyfri pa mor aml y mae pob sgôr yn ymddangos. A yw'n gwneud gwahaniaeth? A yw rhai rhifau'n ymddangos yn fwy aml nag eraill?
Ariennir gan Lywodraeth Cymru / Funded by Welsh Government

Translation generously supported by the Welsh Government.