Skip to content

Gweithgaredd

Calon yn curo

Dechreuwr | MakeCode, Python | Dangosydd LED | Animeiddiad, Dilyniant, Iteriad

Cam 1: Gwneud

Beth yw e?

Gwneud i galon eich micro:bit guro gan ddefnyddio dolennau i greu animeiddiad.

Mae'r ddau fideo hyn yn dangos i chi yr hyn y byddwch yn ei greu a sut i'w godio:

Cyflwyniad

Canllaw codio

Sut mae'n gweithio

  • Mae'r rhaglen yn dangos calon yn curo gan ddefnyddio dau lun parod, calon fawr a bach, ar ddangosydd LED y micro:bit.
  • Mae dangos gwahanol ddelweddau mewn dilyniant yn creu rhith symudiad: calon yn mynd yn fwy ac yn llai.
  • Ar ôl dangos pob delwedd, mae'r rhaglen yn oedi am hanner eiliad (500 milieiliad) cyn dangos y ddelwedd nesaf.
  • Bydd yr animeiddiad yn parhau am byth gan ddefnyddio dolen ddiderfyn: mae'n ailadrodd y dilyniant o ddangos y ddwy ddelwedd hyn ac yn oedi nes i chi ddad-blygio'r micro:bit.
  • Mae defnyddio dolennau i barhau i wneud pethau yn syniad pwysig mewn rhaglennu cyfrifiadurol: rydym wedi creu animeiddiad a fydd yn parhau i redeg am gyhyd â bydd gan y micro:bit bŵer gan ddefnyddio darn bach o god. Gelwir hyn hefyd yn iteriad.

Beth sydd ei angen arnoch

  • micro:bit (neu efelychwr MakeCode)
  • Golygydd MakeCode neu Python
  • pecyn batri (opsiynol)

Cam 2: Codio

1from microbit import *
2
3while True:
4    display.show(Image.HEART)
5    sleep(500)
6    display.show(Image.HEART_SMALL)
7    sleep(500)
8
9

Cam 3: Gwella

  • Gwneud i'r galon guro'n gyflymach neu'n arafach drwy newid yr amser oedi.
  • Rhowch gynnig ar animeiddio delweddau parod eraill megis y diemwnt neu sgwâr bach a mawr.
  • Creu eich animeiddiadau eich hun gan ddefnyddio eich cynlluniau eich hun.
Ariennir gan Lywodraeth Cymru / Funded by Welsh Government

Translation generously supported by the Welsh Government.