Microsoft MakeCode
Golygydd MakeCode Microsoft yw’r ffordd delfrydol i ddechrau rhaglennu a dechrau arni i greu â'r BBC micro:bit. Mae'r blociau gyda lliwiau yn gyfarwydd i unrhyw un sydd wedi defnyddio Scratch yn flaenorol, ond maent yn ddigon pwerus i gael mynediad at holl nodweddion y cyfrifiadur bach hwn. Gallwch hefyd newid i JavaScript i weld y cod sy'n seiliedig ar destun sydd y tu ôl i'r blociau.
Bydd eintudalennau dechrau arni yn eich arwain trwy eich camau cyntaf.
Gallwch ddysgu mwy am ofynion ar gyfer defnyddio golygydd MakeCode yn yr ystafell ddosbarth yn Cwestiynau Cyffredin MakeCode.
Troi eich micro:bit yn fathodyn enw wedi'i animeiddio
Gwneud thermomedr syml â'ch micro:bit
Yn rhifo sgipiadau, neidiau, adar - neu unrhyw beth!
Python
Mae Python yn ffordd wych o gryfhau eich sgiliau rhaglennu drwy godio'n seiliedig ar destun. Mae ei strwythur naturiol sy'n debyg i Saesneg yn ei gwneud yn hawdd i ddechrau dysgu, ond mae hefyd yn ddigon pwerus i'w ddefnyddio mewn meysydd megis gwyddor data a dysgu peirianyddol.
Fe'i ddefnyddir yn eang mewn ysgolion ac fe'i gefnogir gan gymuned fyd-eang o athrawon, rhaglenwyr a pheirianwyr. Dyluniwyd ein golygydd Python i helpu athrawon a dysgwyr i gael y gorau o raglennu'n seiliedig ar destun ar y micro:bit.
Methu â chytuno ar yr hyn i'w wneud? Gadewch i'ch micro:bit benderfynu!
Gwneud larwm lladron a reolir drwy radio
Creu golau awtomatig sy'n troi ymlaen pan fo hi'n dywyll.
Apiau symudol a thabled
Os ydych yn defnyddio dyfeisiau symudol megis ffonau neu dabledi mae gennym apiau iOS ac Android sy'n caniatáu i chi raglennu'ch micro:bit gan ddefnyddio MakeCode. Mae'r cod yn cael ei drosglwyddo o'ch dyfais symudol i'r micro:bit gan ddefnyddio cysylltiad radio Bluetooth, felly nid oes angen ceblau data.
Scratch
Mae plant ac oedolion ledled y byd yn dwli ar Scratch. I lawer, Scratch yw eu cyflwyniad cyntaf i raglennu o oddeutu 8 oed a hŷn.
Gallwch integreiddio micro:bit yn eich prosiectau Scratch, gan droi eich micro:bit yn rheolydd gêm gorfforol, brws paent, bwrdd sgorio digidol neu fwy. Bydd angen cyfrifiadur Windows neu macOS (fersiwn 10/11) arnoch gyda Bluetooth a Scratch Link wedi'i osod neu Chromebook neu ddyfais symudol i osod yr app Android. Yna gallwch ddilyn y dolenni isod i ddechrau neu archwilio ein prosiectau Scratch.
Rheolwch offeryn cerddorol cyfriniol yn Scratch
Gwneud eich rheolydd gêm di-wifr eich hun ar gyfer Scratch
Chwarae cordiau ar gitâr micro:bit gyda Scratch
Swift Playgrounds
Os oes gennych Apple iPad neu gyfrifiadur Mac â macOS 10.15.3 neu hwy, gallwch archwilio iaith raglennu Swift gyda'n llyfr rhyngweithiol Swift Playgrounds.
Golygyddion eraill
Mae cymuned enfawr o bobl yn gwneud offer ar gyfer rhaglennu a rhyngweithio â'r micro:bit sy'n golygu gallwch raglennu'ch micro:bit yn Python, C++ ac ieithoedd eraill, gan gynnwys golygyddion bloc eraill.
Ni chefnogir y golygyddion a restrir isod yn swyddogol gan Micro:bit Educational Foundation, felly edrychwch am y manylion ‘cymorth’ yn y golygyddion eu hunain am unrhyw gwestiynau.
Translation generously supported by the Welsh Government.