Cam 1: Gwneud
Beth yw e?
Golau nos sy'n goleuo sgrîn LED eich BBC micro:bit yn y tywyllwch.
Cyflwyniad
Canllaw codio
Mae’r prosiect hwn yn defnyddio LEDs y micro:bit fel synhwyrydd golau i wneud golau sy’n troi ymlaen yn awtomatig pan fydd yn tywyllu.
Mae synhwyrydd golau y micro:bit yn mesur golau mewn ystod o 0 (tywyll iawn) i 255 (llachar iawn).
Sut mae'n gweithio
- Mae dolen ddiddiwedd yn y cod yn cadw'r micro:bit yn gwirio lefelau golau.
- Mae'n defnyddio rhesymeg i benderfynu a ddylid troi'r LEDs ymlaen neu eu diffodd. Mae cyfarwyddyd amodol (if… then… else) yn gwneud y penderfyniad i droi’r goleuadau LED ymlaen neu eu diffodd.
- Os (if) yw lefel y golau yn disgyn o dan 100, yna (then) mae'n goleuo'r LEDs ar sgrîn y micro:bit. Fel arall (else), mae'n clirio'r sgrîn i ddiffodd y goleuadau LED.
- Profwch e trwy orchuddio'r sgrîn neu daflu golau arno, a gweld a yw'r LEDs yn goleuo pan fydd hi'n dywyll.
- Efallai y bydd angen i chi newid y rhif 100 yn dibynnu ar y lefelau golau o'ch cwmpas. Bydd rhifau mwy yn gwneud i'r golau ddod ymlaen yn haws. Dim ond pan fydd hi'n dywyll iawn y bydd rhifau llai yn gwneud i'r golau ddod ymlaen.
Beth sydd ei angen arnoch
- micro:bit (neu efelychwr MakeCode)
- Golygydd MakeCode neu Python
- pecyn batri (opsiynol)
- ffynhonnell golau a rhywbeth i'w ddefnyddio i orchuddio'r micro:bit
Cam 2: Codio
Cam 3: Gwella
- Newid y ddelwedd i ddangos lleuad neu seren pan fydd yn tywyllu.
- Atodi'r micro:bit i'ch bag neu ddillad i ddefnyddio hyn fel golau diogelwch ychwanegol wrth gerdded neu seiclo - allwch chi wneud iddo fflachio i fod yn fwy amlwg?
- Ceisiwch y prosiect MakeCode yma sy'n gwneud i'r arddangosydd LED fynd yn oleuach neu tywyllach yn dibynu ar faint o olau sy'n disgyn ar y micro:bit. Ble arall rydych wedi gweld pethau eraill sy'n ymateb i olau yn y ffordd hon?
This content is published under a Creative Commons Attribution-ShareAlike 4.0 International (CC BY-SA 4.0) licence.