Cam 1: Gwneud
Beth yw e?
Trowch eich BBC micro:bit yn gyfrifwr camau (neu bedomedr) i'ch helpu i olrhain pa mor egnïol ydych chi - a dysgu rhywfaint o godio ar yr un pryd!
Mae'r ddau fideo hyn yn dangos i chi yr hyn y byddwch yn ei greu a sut i'w godio:
Cyflwyniad
Canllaw codio
Sut mae'n gweithio
- Lawrlwythwch y cod ar micro:bit ac atodwch becyn batri.
- Atodwch y pecyn micro:bit a batri i'ch esgid neu bigwrn, rhowch e yn eich hosan, neu daliwch e yn eich llaw a'i ysgwyd wrth i chi gerdded.
- Mae'r cod yn defnyddio mewnbwn synhwyrydd mesurydd cyflymu y micro:bit i synhwyro pan fydd eich coes yn symud.
- Mae'r cod yn cyfrif sawl gwaith mae'r micro:bit wedi'i ysgwyd. Mae'n storio'r rhif hwn mewn newidyn o'r enw 'camau'.
- Mae newidynnau yn gynwysyddion ar gyfer storio data, y gellir eu cyrchu a'u diweddaru tra bod rhaglen yn rhedeg.
- Bob tro mae mewnbwn mesurydd cyflymu'r micro:bit yn synhwyro ysgwyd, mae'r rhaglen yn cynyddu'r nifer a gedwir yn y newidyn gan 1, ac yn dangos y rhif newydd ar yr allbwn sgrîn LED.
Beth sydd ei angen arnoch
- micro:bit (neu efelychwr MakeCode)
- Golygydd MakeCode neu Python
- pecyn batri
- rhywbeth i gysylltu'r micro:bit i'ch esgid neu'ch coes – band elastig, glanhawr pibell, tâp neu felcro.
Cam 2: Codio
Cam 3: Gwella
- Addaswch y cod fel ei fod yn dangos eich cyfrif camau cyfredol pan fyddwch chi'n pwyso botwm.
- Os gwelwch fod y cod ond yn cyfrif bob yn ail gam, addaswch y cod i luosi’r newidyn ‘camau’ â dau pan fydd yn cael ei arddangos.
- Mesurwch hyd eich cam ar gyfartaledd a chael eich micro:bit i luosi hyn â nifer y camau i gyfrifo’r pellter rydych chi wedi’i gerdded.
This content is published under a Creative Commons Attribution-ShareAlike 4.0 International (CC BY-SA 4.0) licence.
Translation generously supported by the Welsh Government.