Cam 1: Gwneud
Beth yw e?
Ail-greu tegan clasurol o'r 1950au gyda'ch micro:bit a'i addasu i'w bersonoli.
Sut mae'n gweithio
- Mae Pêl 8 Hud yn degan a ddyfeisiwyd yn UDA yn yr 1950au. O'r un siâp â phêl bŵl anarferol o fawr, rydych yn gofyn cwestiwn iddo, megis 'fydda i'n gyfoethog ac enwog ryw ddydd?', ysgwyd y bêl a bydd un o 20 o wahanol atebion yn ymddangos ar hap mewn ffenestr. Gall atebion fod yn gadarnhaol, yn negyddol - neu rywle yn y canol.
- Mae'r rhaglen hon yn ail-greu Pêl 8 Hud gan ddefnyddio mesurydd cyflymiad y micro:bit, ei allu i greu rhifau ar hap a'i allbwn dangosydd LED i ddangos tic am 'ie', croes am 'na' neu wyneb 'meh' am 'ddim yn siŵr'.
- Mae'r rhaglen yn cynhyrchu rhif ar hap rhwng 1 a 3 ac wedyn yn defnyddio datganiadau os... wedyn... arall... os... i wneud i wahanol symbolau ymddangos gan ddibynnu ar y rhif. Adnabyddir hyn yn ddewis.
- Os mai 3 yw'r rhif, bydd yn dangos tic am 'ie'. Os mai 2 yw'r rhif, bydd yn dangos croes am 'na'.
- Nid oes angen i'r rhaglen wirio a yw'r rhif yn 1, gan nad yw'n 3 na 2, mae'n rhaid iddo fod yn 1, felly bydd yn dangos wyneb 'meh' am 'ddim yn siŵr'.
Beth sydd ei angen arnoch
- micro:bit (neu efelychwr MakeCode)
- Golygydd MakeCode neu Python
- pecyn batri (opsiynol)
- rhai cwestiynau i'w gofyn i'ch micro:bit
Cam 2: Codio
Cam 3: Gwella
- Gwneud i'r ddelwedd ddiflannu ar ôl ychydig eiliadau.
- Gwneud i'r micro:bit ddangos gwahanol atebion dirgel pan fyddwch yn ei ysgwyd, yn lle lluniau. Gallai ddweud 'Nid wyf yn siŵr' neu 'Amser a ddengys'.
- Dyma ffordd arall o wneud Pêl 8 Hud gan ddefnyddio Python.
This content is published under a Creative Commons Attribution-ShareAlike 4.0 International (CC BY-SA 4.0) licence.
Translation generously supported by the Welsh Government.