Cam 1: Gwneud
Beth yw e?
Ysgwyd eich micro:bit i wneud rhifau ar hap.
Mae'r ddau fideo hyn yn dangos i chi yr hyn y byddwch yn ei greu a sut i'w godio:
Cyflwyniad
Canllaw codio
Sut mae'n gweithio
- Fel y Prosiect Bod yn wirion mae'r rhaglen yn defnyddio mesurydd cyflymiad y micro:bit i wneud i rywbeth ddigwydd pan fyddwch yn ei ysgwyd.
- Pan fyddwch yn ysgwyd eich micro:bit, bydd y rhaglen yn dewis rhif ar hap rhwng 1 a 6 ac yn ei ddangos ar y dangosydd LED.
- Mae'n wirioneddol anodd i gyfrifiaduron wneud rhifau sydd wirioneddol ar hap oherwydd eu bod yn beiriannau sy'n gweithio'n fanwl gywir ac yn rheolaidd.
- Gwneud siart cyfrif o ba mor aml y mae pob rhif yn ymddangos. A yw'r rhifau hyn wir ar hap? Cymharu hyn â dis go iawn.
Beth sydd ei angen arnoch
- micro:bit (neu efelychwr MakeCode)
- Golygydd MakeCode neu Python
- pecyn batri (opsiynol)
- dis go iawn (opsiynol)
Cam 2: Codio
Cam 3: Gwella
- Gwneud i'r rhif ymddangos am ychydig o eiliadau, wedyn clirio'r danosydd LED i arbed batrïau.
- Gwneud iddo rolio 2 ddis. Gallwch wneud rhif ar hap rhwng 2 a 12, neu gallwch wneud dau rif ar hap rhwng 1 a 6 a'u hadio gyda'i gilydd.
- Rhowch gynnig ar y ddau ddull a chyfri pa mor aml y mae pob sgôr yn ymddangos. A yw'n gwneud gwahaniaeth? A yw rhai rhifau'n ymddangos yn fwy aml nag eraill?
This content is published under a Creative Commons Attribution-ShareAlike 4.0 International (CC BY-SA 4.0) licence.
Translation generously supported by the Welsh Government.