Skip to content

Gweithgaredd

Bod yn wirion

Dechreuwr | MakeCode, Python | Mesurydd cyflymiad | Mewnbwn/allbwn

Cam 1: Gwneud

Beth yw e?

Ehangu'r ystod o emosiynau gallwch eu dangos - neidio i fyny ac i lawr i ddangos eich bod yn teimlo'n wirion!

micro:bit yn cael ei ysgwyd ac yn dangos wyneb gwirion ar ei ddangosydd LED

Sut mae'n gweithio

  • Fel y Bathodyn emosiwn, mae'r rhaglen hon yn dangos wyneb hapus neu drist gan ddibynnu ar ba fotwm mewnbwn rydych yn ei wasgu, A neu B.
  • Mae gan y micro:bit fewnbynnau eraill, megis synwyryddion.
  • Mae'r rhaglen hon yn defnyddio mewnbwn mesurydd cyflymiad y micro:bit i fesur grymoedd a synhwyro pan fydd yn cael ei ysgwyd.
  • Pan fydd y mesurydd cyflymiad yn synhwyro symudiad sydyn, bydd y rhaglen yn gwneud i'r wyneb gwirion ymddangos ar allbwn y dangosydd LED.

Beth sydd ei angen arnoch

  • micro:bit (neu efelychwr MakeCode)
  • Golygydd MakeCode neu Python
  • pecyn batri (opsiynol)
  • ychydig o egni i ysgwyd, neidio neu fod yn wirion

Cam 2: Codio

1from microbit import *
2
3while True:
4    if button_a.is_pressed():
5        display.show(Image.HAPPY)
6    if button_b.is_pressed():
7        display.show(Image.SAD)
8    if accelerometer.was_gesture('shake'):
9        display.show(Image.SILLY)

Cam 3: Gwella

  • Defnyddio gwahanol ddelweddau emosiynau parod megis MEH, CONFUSED (dryslyd) neu ANGRY (crac).
  • Dangos emosiwn arall pan fyddwch yn gwasgu botymau A a B gyda'i gilydd.
  • Ychwanegu emosiynau newydd gan ddefnyddio'r dangosydd LED i dynnu'ch lluniau eich hun fel y gwnaethom yn Anifeiliaid wedi'u hanimeiddio.
  • Gall y mesurydd cyflymiad synhwyro ‘symudiadau’ eraill megis ‘cwympo’ ac a yw'n cael ei wyro i’r chwith neu i’r dde - rhowch gynnig arnynt. Dysgu mwy am symudiadau yn micro:bit Python yma.

Ariennir gan Lywodraeth Cymru / Funded by Welsh Government

Translation generously supported by the Welsh Government.