Cam 1: Gwneud
Beth yw e?
Codio eich metronom electronig eich hun sy'n gwneud curiadau rheolaidd y gallwch eu harafu a'u cyflymu tra eich bod yn ymarfer cerddoriaeth.
Cyflwyniad
Canllaw codio
Beth fyddwch yn ei ddysgu
- Sut i addasu tempo nodau cerddorol mae'r micro:bit yn eu chwarae
- Sut i ddefnyddio botymau mewnbwn ac allbynnau sain i wneud dyfais electronig ddefnyddiol
Sut mae'n gweithio
- Ar ddechrau'r rhaglen, mae'n gosod y tempo i 100bpm - curiadau fesul munud. Dyma ffordd safonol o fesur tempo, neu gyflymder cerddoriaeth.
- Mae dolen am byth yn gwneud i'r micro:bit barhau i chwarae nodyn byr ac wedyn yn cymryd saib am un curiad.
- Gallwch glywed y sain drwy gysylltu clustffonau â phin 0 a'r GND neu ar seinydd parod y micro:bit newydd.
- Gwasgu botwm A i arafu'r tempo gan 5 bpm.
- Gwasgu botwm B i'w gyflymu gan 5 bpm.
- Bydd gwasgu botymau A a B ar yr un pryd yn dangos y tempo presennol ar allbwn y dangosydd LED.
Beth sydd ei angen arnoch
- micro:bit
- Golygydd MakeCode neu Python
- pecyn batri (opsiynol)
Cam 2: Codio
Cam 3: Gwella
- Efallai byddwch yn sylwi ei fod yn chwarae ei rythm ychydig yn arafach nag offeryn electronig gyda'r un gosodiad BPM - oherwydd mae pob dolen yn cymryd un curiad ac un rhan o un ar bymtheg o guriad, yn lle un curiad yn unig.
- Gallech roi cynnig ar ei wneud yn fwy manwl gywir drwy adio ffracsiynau curiad i wneud un curiad cyfan: 1/2 + 1/4 + 1/8 + 1/16 yn gwneud 15/16 i'w hychwanegu at yr 1/16eg curiad rydych yn chwarae'r dôn ar ei gyfer.
- Mae blociau 'am byth' hefyd yn ychwanegu ychydig o oedi, felly bydd defnyddio dolen 'tra bod yn wir' yn cyflymu eich cod a'i wneud yn fwy manwl gywir.
- Mae'r fideo cod ar frig y dudalen hon yn dangos i chi sut i wneud hyn.
This content is published under a Creative Commons Attribution-ShareAlike 4.0 International (CC BY-SA 4.0) licence.
Translation generously supported by the Welsh Government.