Skip to content

Gweithgaredd

Metronom

Dechreuwr | MakeCode, Python | Botymau, Dangosydd LED, Sain | Iteriad, Tempo

Cam 1: Gwneud

Beth yw e?

Codio eich metronom electronig eich hun sy'n gwneud curiadau rheolaidd y gallwch eu harafu a'u cyflymu tra eich bod yn ymarfer cerddoriaeth.

Cyflwyniad

Canllaw codio

Beth fyddwch yn ei ddysgu

  • Sut i addasu tempo nodau cerddorol mae'r micro:bit yn eu chwarae
  • Sut i ddefnyddio botymau mewnbwn ac allbynnau sain i wneud dyfais electronig ddefnyddiol

Sut mae'n gweithio

  • Ar ddechrau'r rhaglen, mae'n gosod y tempo i 100bpm - curiadau fesul munud. Dyma ffordd safonol o fesur tempo, neu gyflymder cerddoriaeth.
  • Mae dolen am byth yn gwneud i'r micro:bit barhau i chwarae nodyn byr ac wedyn yn cymryd saib am un curiad.
  • Gallwch glywed y sain drwy gysylltu clustffonau â phin 0 a'r GND neu ar seinydd parod y micro:bit newydd.
  • Gwasgu botwm A i arafu'r tempo gan 5 bpm.
  • Gwasgu botwm B i'w gyflymu gan 5 bpm.
  • Bydd gwasgu botymau A a B ar yr un pryd yn dangos y tempo presennol ar allbwn y dangosydd LED.

Beth sydd ei angen arnoch

  • micro:bit
  • Golygydd MakeCode neu Python
  • pecyn batri (opsiynol)

Cam 2: Codio

1from microbit import *
2import music
3tempo = 100
4
5while True:
6    music.set_tempo(bpm=tempo)
7    music.play(['C4:1', 'r:3']) # play C for 1 tick, rest for 3 ticks
8    if button_a.was_pressed():
9        tempo -= 5
10    if button_b.was_pressed():
11        tempo += 5  
12    

Cam 3: Gwella

  • Efallai byddwch yn sylwi ei fod yn chwarae ei rythm ychydig yn arafach nag offeryn electronig gyda'r un gosodiad BPM - oherwydd mae pob dolen yn cymryd un curiad ac un rhan o un ar bymtheg o guriad, yn lle un curiad yn unig.
  • Gallech roi cynnig ar ei wneud yn fwy manwl gywir drwy adio ffracsiynau curiad i wneud un curiad cyfan: 1/2 + 1/4 + 1/8 + 1/16 yn gwneud 15/16 i'w hychwanegu at yr 1/16eg curiad rydych yn chwarae'r dôn ar ei gyfer.
  • Mae blociau 'am byth' hefyd yn ychwanegu ychydig o oedi, felly bydd defnyddio dolen 'tra bod yn wir' yn cyflymu eich cod a'i wneud yn fwy manwl gywir.
  • Mae'r fideo cod ar frig y dudalen hon yn dangos i chi sut i wneud hyn.
Grid yn dangos ffracsiynau curiadau yn adio' hyd at bymtheg 16egau

Ariennir gan Lywodraeth Cymru / Funded by Welsh Government

Translation generously supported by the Welsh Government.