Cam 1: Gwneud
Beth yw e?
Trowch eich micro:bit yn larwm sy'n sensitif i olau i'ch helpu i godi yn y bore. Byddwch yn dysgu sut i ddefnyddio dolenni diddiwedd, a dewis gyda rhesymeg cymharu.
Mae'r ddau fideo hyn yn dangos i chi yr hyn y byddwch yn ei greu a sut i'w godio:
Sut mae'n gweithio
- span data-type="object" data-key="7475851c34ca" data-marks="">Mae'r rhaglen yn defnyddio sgrîn LED y micro:bit fel synhwyryddgolau.
- Defnyddir dewis ('if... else') a rhesymeg gymharu (> 70) fel os yw lefel y golau yn uwch na swm penodol, bydd eicon haul yn ymddangos ac bydd yn gwneud sŵn; fel arall, mae'n clirio'r sgrîn.
- Os yw lefel y golau yn fwy na (>) 70, mae haul yn ymddangos ar y sgrîn LED, gan ddweud wrthych ei bod hi'n bryd codi.
- Mae'r rhaglen yn defnyddio dolen ddiddiwedd i ddal i synhwyro lefel y golau.
- Gallwch chi addasu'r trothwy lle mae'r haul yn ymddangos. Defnyddiwch rifau mwy i'w wneud yn llai sensitif i olau, fel bod y larwm yn canu dim ond pan fydd yn fwy disglair - neu rifau llai i'w wneud yn fwy sensitif i olau.
Beth sydd ei angen arnoch
- micro:bit (neu defnyddiwch yr efelychydd yn y golygyddion ar-lein)
- Golygydd MakeCode neu Python
- pecyn batri (dewisol ond argymhellir)
Cam 2: Codio
Cam 3: Gwella
- Newidiwch sain y larwm.
- Amnewid eicon yr haul gyda negeseuon ysgogol a all eich helpu i ddechrau'ch diwrnod.