Skip to content

Gweithgaredd

Anifeiliaid wedi'u hanimeiddio

Dechreuwr | MakeCode, Python | Dangosydd LED | Dilyniant, Iteriad

Cam 1: Gwneud

Beth yw e?

Animeiddio eich lluniau eich hun ar ddangosydd y micro:bit.

delwedd hwyaden yn symud i fyny ac i lawr ar ddangosydd LED y micro:bit

Sut mae'n gweithio

  • Mae'r rhaglen hon yn creu animeiddiad ar allbwn dangosydd LED y micro:bit gan ddefnyddio delwedd barod ac un rydych yn ei chreu eich hun.
  • Yn gyntaf, mae'n dangos delwedd barod yr hwyaden ac wedyn mae'n dangos fersiwn wedi'i haddasu, a wneir drwy symud yr holl ddotiau (picseli) i lawr un rhes.
  • Mae'n dangos y ddau lun gwahanol un ar ôl y llall, gydag oedi o hanner eiliad (500 milieiliad), i'w gwneud i edrych fel hwyaden yn mynd i fyny ac i lawr ar y dŵr.
  • Mae dolen ddiderfyn yn gwneud i'r micro:bit ddangos dilyniant y ddelwedd nes i chi ddad-blygio'r micro:bit.
  • Mae defnyddio dolennau mewn rhaglenni cyfrifiadurol yn cael ei adnabod fel iteriad. Maent yn eich helpu i greu cod cryno effeithlon heb fod angen ailadrodd yr un cyfarwyddiadau.

Beth sydd ei angen arnoch

  • micro:bit (neu efelychwr MakeCode)
  • Golygydd MakeCode neu Python
  • pecyn batri (opsiynol)
  • papur graff neu daflen cynllunio LED opsiynol i dynnu braslun o'ch dyluniadau ar gyfer eich anifail eich hun

Cam 2: Codio

1from microbit import *
2
3while True:
4    display.show(Image.DUCK)
5    sleep(500)
6    display.show(Image(
7        "00000:"
8        "09900:"
9        "99900:"
10        "09999:"
11        "09990"))
12    sleep(500)

Cam 3: Gwella

  • Rhowch gynnig ar addasu ac animeiddio gwahanol ddelweddau parod megis JIRÁFF a CWNINGEN.
  • Creu eich delweddau eich hun o'r cychwyn cyntaf gan ddefnyddio papur graff neu ein taflen gynllunio LED i dynnu braslun o'ch dyluniadau.
  • Gwneud dilyniannau animeiddio hwy i ddweud stori.
  • Yn Python, defnyddio rhifau gwahanol i newid disgleirdeb gwahanol bicseli. 9 yw'r mwyaf disglair, 1 yw'r lleiaf disglair a 0 yw i ffwrdd.

Ariennir gan Lywodraeth Cymru / Funded by Welsh Government

Translation generously supported by the Welsh Government.