Cam 1: Gwneud
Beth yw e?
Ehangu'r ystod o emosiynau gallwch eu dangos - neidio i fyny ac i lawr i ddangos eich bod yn teimlo'n wirion!
Sut mae'n gweithio
- Fel y Bathodyn emosiwn, mae'r rhaglen hon yn dangos wyneb hapus neu drist gan ddibynnu ar ba fotwm mewnbwn rydych yn ei wasgu, A neu B.
- Mae gan y micro:bit fewnbynnau eraill, megis synwyryddion.
- Mae'r rhaglen hon yn defnyddio mewnbwn mesurydd cyflymiad y micro:bit i fesur grymoedd a synhwyro pan fydd yn cael ei ysgwyd.
- Pan fydd y mesurydd cyflymiad yn synhwyro symudiad sydyn, bydd y rhaglen yn gwneud i'r wyneb gwirion ymddangos ar allbwn y dangosydd LED.
Beth sydd ei angen arnoch
- micro:bit (neu efelychwr MakeCode)
- Golygydd MakeCode neu Python
- pecyn batri (opsiynol)
- ychydig o egni i ysgwyd, neidio neu fod yn wirion
Cam 2: Codio
Cam 3: Gwella
- Defnyddio gwahanol ddelweddau emosiynau parod megis MEH, CONFUSED (dryslyd) neu ANGRY (crac).
- Dangos emosiwn arall pan fyddwch yn gwasgu botymau A a B gyda'i gilydd.
- Ychwanegu emosiynau newydd gan ddefnyddio'r dangosydd LED i dynnu'ch lluniau eich hun fel y gwnaethom yn Anifeiliaid wedi'u hanimeiddio.
- Gall y mesurydd cyflymiad synhwyro ‘symudiadau’ eraill megis ‘cwympo’ ac a yw'n cael ei wyro i’r chwith neu i’r dde - rhowch gynnig arnynt. Dysgu mwy am symudiadau yn micro:bit Python yma.
This content is published under a Creative Commons Attribution-ShareAlike 4.0 International (CC BY-SA 4.0) licence.
Translation generously supported by the Welsh Government.