Cam 1: Gwneud
Beth yw e?
Oes rhywun wedi bod yn eich tun bisgedi? Gallwch raglennu eich BBC micro:bit i weithredu fel larwm i roi gwybod i chi! Byddwch yn dysgu am ddewis, rhesymeg cymharu, a synhwyrydd golau'r micro:bit.
Mae'r ddau fideo hyn yn dangos i chi yr hyn y byddwch yn ei greu a sut i'w godio:
Sut mae'n gweithio
- Mae'r rhaglen yn troi sgrîn LED y micro:bit yn synhwyryddgolau.
- Rhowch eich micro:bit yn y tun rydych chi am ei ddiogelu. Pan agorir y caead, mae'r synhwyrydd golau yn canfod newid yn lefel y golau ac yn sbarduno'r larwm.
- Mae'r rhaglen yn defnyddio dolen ddiddiwedd i ddal i synhwyro lefel y golau.
- Defnyddir dewis ('if... else') a rhesymeg gymharu (> 30) fel bod wyneb blin yn ymddangos ar y sgrîn os yw lefel y golau yn uwch na swm penodol; fel arall, mae'n clirio'r sgrîn.
Beth sydd ei angen arnoch
- micro:bit (neu efelychwr MakeCode)
- Golygydd MakeCode
- pecyn batri
Cam 2: Codio
Cam 3: Gwella
- Addaswch y rhaglen, gan ddileu'r rhan "else" o'r gymhariaeth, fel bod y wyneb blin yn aros ar y sgrîn micro:bit beth bynnag yw lefel y golau fel y gallwch chi gael gwybod a yw rhywun wedi agor eich tun.
- Ychwanegwch larwm clywadwy gan ddefnyddio blociau o adran gerddoriaeth y golygydd MakeCode.
- Cyfrwch sawl gwaith mae eich tun wedi cael ei agor drwy gyflwyno newidyn i mewn i'r rhaglen.
- Os oes gennych ddau micro:bit, defnyddiwch y swyddogaethradio i anfon signal atoch cyn gynted ag y bydd eich tun yn cael ei agor. Cymerwch olwg ar y prosiect larwm golau i ddarganfod sut i wneud hyn.