Skip to content

Gweithgaredd

Cyfeirbwynt cwmpawd

Dechreuwr | MakeCode, Python | Botymau, Cwmpawd | Defnyddio cwmpawd, Magneteg, Mewnbwn/allbwn, Synwyryddion

Cam 1: Gwneud

Beth yw e?

Troi eich micro:bit yn gwmpawd syml sy'n dangos ei gyfeirbwynt o Ogledd magnetig mewn graddau.

micro:bit yn dangos darlleniad rhifyddol 0 gradd a chwmpawd yn pwyntio at y Gogledd

Sut mae'n gweithio

  • Mae gan eich micro:bit synhwyrydd cwmpawd parod a elwir yn magnetomedr. Gallwch ei ddefnyddio i fesur maes magnetig y Ddaear a'i ddefnyddio fel cwmpawd.
  • Pan fyddwch yn defnyddio cwmpawd y micro:bit am y tro cyntaf mae rhaid i chi ei raddnodi - mae gêm fach yn ymddangos ar y sgrin lle bydd rhaid i chi wyro'r micro:bit i oleuo pob LED, wedyn byddwch yn barod i fynd.
  • Pan fyddwch yn gwasgu'r botwm mewnbwn A, bydd y micro:bit yn cymryd darlleniad o synhwyrydd y cwmpawd ac yn dangos cyfeirbwynt cwmpawd rhifyddol y ddyfais ar allbwn y dangosydd LED. Pwyntiwch y micro:bit at Gogledd a dylech weld darlleniad o 0 gradd.
rhosyn y cwmpawd yn dangos onglau ar gyfer pob pwynt, Gogledd, De, De-Ddwyrain ayyb

Beth sydd ei angen arnoch

  • micro:bit (neu efelychwr MakeCode)
  • Golygydd MakeCode neu Python
  • pecyn batri (opsiynol)
  • planed gyda phegynnau magnetig i sefyll arnynt - er enghraifft, y Ddaear!

Cam 2: Codio

1from microbit import *
2compass.calibrate()
3
4while True:
5    if button_a.was_pressed():
6        display.scroll(str(compass.heading()))

Cam 3: Gwella

  • Ychwanegu botwm arall i ailraddnodi'r cwmpawd.
  • Gwneud i'r micro:bit wneud sŵn pan fydd yn pwyntio mewn cyfeiriad arbennig - gallai hyn fod yn ddefnyddiol i helpu i lywio pan nad ydych yn gallu edrych ar ddangosydd neu ar gyfer pobl sydd â nam ar eu golwg.
  • Gwneud i'r micro:bit arddangos llythrennau neu saethau i ddangos a yw'n pwyntio at y Gogledd, De, Dwyrain neu Orllewin.

Ariennir gan Lywodraeth Cymru / Funded by Welsh Government

Translation generously supported by the Welsh Government.