Cam 1: Gwneud
Beth yw e?
Troi eich micro:bit yn gwmpawd syml sy'n dangos ei gyfeirbwynt o Ogledd magnetig mewn graddau.

Sut mae'n gweithio
- Mae gan eich micro:bit synhwyrydd cwmpawd parod a elwir yn magnetomedr. Gallwch ei ddefnyddio i fesur maes magnetig y Ddaear a'i ddefnyddio fel cwmpawd.
- Pan fyddwch yn defnyddio cwmpawd y micro:bit am y tro cyntaf mae rhaid i chi ei raddnodi - mae gêm fach yn ymddangos ar y sgrin lle bydd rhaid i chi wyro'r micro:bit i oleuo pob LED, wedyn byddwch yn barod i fynd.
- Pan fyddwch yn gwasgu'r botwm mewnbwn A, bydd y micro:bit yn cymryd darlleniad o synhwyrydd y cwmpawd ac yn dangos cyfeirbwynt cwmpawd rhifyddol y ddyfais ar allbwn y dangosydd LED. Pwyntiwch y micro:bit at Gogledd a dylech weld darlleniad o 0 gradd.

Beth sydd ei angen arnoch
- micro:bit (neu efelychwr MakeCode)
- Golygydd MakeCode neu Python
- pecyn batri (opsiynol)
- planed gyda phegynnau magnetig i sefyll arnynt - er enghraifft, y Ddaear!
Cam 2: Codio
Cam 3: Gwella
- Ychwanegu botwm arall i ailraddnodi'r cwmpawd.
- Gwneud i'r micro:bit wneud sŵn pan fydd yn pwyntio mewn cyfeiriad arbennig - gallai hyn fod yn ddefnyddiol i helpu i lywio pan nad ydych yn gallu edrych ar ddangosydd neu ar gyfer pobl sydd â nam ar eu golwg.
- Gwneud i'r micro:bit arddangos llythrennau neu saethau i ddangos a yw'n pwyntio at y Gogledd, De, Dwyrain neu Orllewin.
This content is published under a Creative Commons Attribution-ShareAlike 4.0 International (CC BY-SA 4.0) licence.

Translation generously supported by the Welsh Government.