Cam 1: Gwneud
Beth yw e?
Gwneud i galon eich micro:bit guro gan ddefnyddio dolennau i greu animeiddiad.
Mae'r ddau fideo hyn yn dangos i chi yr hyn y byddwch yn ei greu a sut i'w godio:
Cyflwyniad
Canllaw codio
Sut mae'n gweithio
- Mae'r rhaglen yn dangos calon yn curo gan ddefnyddio dau lun parod, calon fawr a bach, ar ddangosydd LED y micro:bit.
- Mae dangos gwahanol ddelweddau mewn dilyniant yn creu rhith symudiad: calon yn mynd yn fwy ac yn llai.
- Ar ôl dangos pob delwedd, mae'r rhaglen yn oedi am hanner eiliad (500 milieiliad) cyn dangos y ddelwedd nesaf.
- Bydd yr animeiddiad yn parhau am byth gan ddefnyddio dolen ddiderfyn: mae'n ailadrodd y dilyniant o ddangos y ddwy ddelwedd hyn ac yn oedi nes i chi ddad-blygio'r micro:bit.
- Mae defnyddio dolennau i barhau i wneud pethau yn syniad pwysig mewn rhaglennu cyfrifiadurol: rydym wedi creu animeiddiad a fydd yn parhau i redeg am gyhyd â bydd gan y micro:bit bŵer gan ddefnyddio darn bach o god. Gelwir hyn hefyd yn iteriad.
Beth sydd ei angen arnoch
- micro:bit (neu efelychwr MakeCode)
- Golygydd MakeCode neu Python
- pecyn batri (opsiynol)
Cam 2: Codio
Cam 3: Gwella
- Gwneud i'r galon guro'n gyflymach neu'n arafach drwy newid yr amser oedi.
- Rhowch gynnig ar animeiddio delweddau parod eraill megis y diemwnt neu sgwâr bach a mawr.
- Creu eich animeiddiadau eich hun gan ddefnyddio eich cynlluniau eich hun.
This content is published under a Creative Commons Attribution-ShareAlike 4.0 International (CC BY-SA 4.0) licence.
Translation generously supported by the Welsh Government.