Skip to content

Gweithgaredd

Cofnodwr data arolwg traffig

Canolradd | MakeCode | Logio data | Gweithio'n wyddonol, Synwyryddion, Trafod data, Trafod gwybodaeth, Ystadegau a graffiau

Cam 1: Gwneud

Beth yw e?

Defnyddiwch eich BBC micro:bit fel cofnodwr data i arolygu pethau a welwch, fel gwahanol fathau o draffig neu fywyd gwyllt, neu atebion i gwestiynau.

Cyflwyniad

Canllaw codio

Wrth bwyso botwm, mae'r micro:bit yn cofnodi'r hyn rydych chi wedi'i weld ac yn storio'r data mewn tabl er mwyn i chi allu eu dadansoddi'n nes ymlaen.

Mae data'n aros ar eich micro:bit hyd yn oed os byddwch yn datgysylltu'r batris neu'r cebl USB, felly gallwch chi eu hastudio pan fyddwch chi'n ôl wrth eich cyfrifiadur.

sgrinlun o ddata traffig wedi'u cofnodi gan micro:bit

Beth sydd ei angen arnoch

  • micro:bit V2
  • cyfrifiadur a chebl USB meicro ar gyfer codio'r micro:bit a gweld eich data
  • pecyn batri micro:bit (dewisol ond argymhellir)
  • efallai y bydd ein canllaw cofnodi data yn ddefnyddiol

Casglu data

  • Trosglwyddwch y rhaglen isod i'ch micro:bit.
  • Gallwch chi recordio data yn unrhyw le os byddwch yn dad-blygio'r micro:bit o'ch cyfrifiadur ac yn cysylltu pecyn batri.
  • Mae tic yn ymddangos i ddangos ei fod yn barod i ddechrau cofnodi.
  • Mae unrhyw ddata blaenorol yn cael eu dileu pan fyddwch yn trosglwyddo cod newydd i'ch micro:bit, ond gallwch hefyd ddileu unrhyw hen ddata trwy bwyso'r botymau A a B gyda'i gilydd.
  • Pwyswch y botwm A i gofnodi pan welwch gar, botwm B pan welwch fws a phwyswch y logo cyffwrdd aur pan welwch lori.
    AWGRYM: Gwnewch yn siŵr eich bod yn dal eich micro:bit wrth yr ymylon fel nad ydych yn cofnodi unrhyw ddata ar ddamwain.

Dadansoddwch eich data

  • Pan fyddwch wedi casglu eich data, plygiwch y micro:bit i mewn i gyfrifiadur. Mae'r micro:bit yn ymddangos fel gyriant USB o'r enw MICROBIT.
  • Agorwch y ffeil MY_DATA i weld tabl o'r holl draffig a gofnodwyd gennych yn eich porwr gwe:
Y gyriant MICROBIT fel y mae'n ymddangos yn Windows
Y ffeil MY_DATA fel y mae'n ymddangos pan fyddwch chi'n ei hagor mewn porwr gwe
  • Mae'r amseroedd a gofnodwyd yn y tabl yn dangos faint o amser a aeth heibio ers i'ch micro:bit gael ei droi ymlaen.

Gallwch:

  • Adio cyfanswm pob colofn i wneud eich colofn neu siart bar eich hun i ddelweddu data eich arolwg.
  • Pwyswch y botwm copïo i gopïo'r data fel y gallwch eu cludo'n syth i mewn i daenlen. Defnyddiwch swyddogaeth SUM y daenlen i gyfrif cyfanswm pob math o gerbyd.
  • Lawrlwythwch y data fel ffeil CSV (gwerthoedd wedi'u gwahanu gan goma) y gallwch chi hefyd ei mewnforio i daenlen.
data traffig a gofnodwyd ar micro:bit wedi'u gludo i mewn i daenlen Excel

Cam 2: Codio

Cam 3: Gwella

  • Ailgymysgwch y cod i gyfrif gwahanol bethau:
    • gwahanol fathau o fywyd gwyllt yn eich ardal
    • cynnal patrôl sbwriel i gyfrif ailgylchu, compost a sbwriel arferol
    • cynnal arolwg o sut mae pobl yn cyrraedd yr ysgol, er enghraifft, cerdded, bws neu feic
    • cynnal arolwg o bleidleisiau pobl dros ddewisiadau gweithgareddau
  • Dadansoddwch eich data, ysgrifennwch eich canfyddiadau a'i gyflwyno'n ôl i bobl yn eich ardal. Allwch chi eu hysgogi i newid ymddygiad o amgylch dulliau teithio neu ailgylchu sbwriel?
Ariennir gan Lywodraeth Cymru / Funded by Welsh Government

Translation generously supported by the Welsh Government.