Cam 1: Gwneud
Beth yw e?
Gwneud offeryn ar gyfer sicrhau bod lluniau, silffoedd neu wynebau gweithio'n wastad. Mae seinydd parod y micro:bit newydd yn ei gwneud yn hawdd i wella'ch lefel wirod gydag adborth sain.
Cyflwyniad
Canllaw codio
Beth fyddwch yn ei ddysgu
- Sut i ddefnyddio synhwyrydd y mesurydd cyflymiad i fesur onglau
- Beth yw 'gogwydd' a 'rhôl'
- Sut i gyfuno darlleniadau synhwyrydd mewn dau ddimensiwn i ganfod wyneb gwastad
Sut mae'n gweithio

- Gall mesurydd cyflymiad y micro:bit fesur onglau gwyro mewn dau gyfeiriad, i fyny ac i lawr (gogwydd) ac ochr i ochr (rhôl). Mae'r prosiect hwn yn defnyddio hyn i ddangos pan fydd y micro:bit yn wastad ar y dangosydd LED ac wrth wneud sain, a allai fod yn ddefnyddiol wrth roi llun i fyny neu wneud wyneb gweithio.
- Mae dolen yn sicrhau bod y rhaglen yn parhau i fesur ongl y micro:bit yn barhaus.
- Os yw'r mesurydd cyflymiad yn mesur ongl gwyro rhwng +5 a -5 gradd ar gyfer gogwydd yn ogystal â rhôl, mae'n rhaid bod y micro:bit yn weddol wastad. Wedyn, bydd yn dangos tic ar allbwn y dangosydd LED ac yn chwarae tôn gerddorol.
- I glywed y dôn, cysylltu clustffonau neu seinydd â phin 0 a'r GND, neu os oes gennych micro:bit newydd, byddwch yn ei chlywed ar y seinydd parod.
- Os yw naill ai'r gogwydd neu'r rhôl y tu allan i'r ystod +5 i -5 gradd, bydd yn dangos croes ar y dangosydd LED ac yn stopio'r sain.
Beth sydd ei angen arnoch
- micro:bit
- Golygydd MakeCode neu Python
- pecyn batri (opsiynol)
Cam 2: Codio
Cam 3: Gwella
- Ydych chi'n gallu gwneud i'r traw cerddorol newid gan ddibynnu ar yr ongl?
- Allech godio 'swigen' LED sy'n symud o gwmpas y sgrin fel lefel wirod go iawn?
This content is published under a Creative Commons Attribution-ShareAlike 4.0 International (CC BY-SA 4.0) licence.

Translation generously supported by the Welsh Government.