Skip to content

Gweithgaredd

Cwmpawd sain

Canolradd | MakeCode, Python | Botymau, Cwmpawd, Dangosydd LED, Sain | Defnyddio cwmpawd, Dewis, Gweithredwyr perthynol, Newidynnau

Cam 1: Gwneud

Beth yw e?

Gwneud cwmpawd sy'n gwneud sain pan fyddwch yn pwyntio at y Gogledd i'w wneud yn fwy hygyrch a defnyddiol.

Cyflwyniad

Canllaw codio

Beth fyddwch yn ei ddysgu

  • Sut i ddefnyddio darlleniadau cwmpawd o synhwyrydd magnetomedr y micro:bit
  • Sut i ddefnyddio newidynnau, dewis, cymariaethau a rhesymeg i sbarduno digwyddiadau pan fydd darlleniadau synhwyrydd mewn ystod o rifau

Sut mae'n gweithio

  • Mae dolen yn gwneud i'r micro:bit barhau i wirio pa gyfeiriad rydych yn ei wynebu. Mae'n storio hyn mewn newidyn a elwir yn cyfeiriad.
  • Os yw'r cyfeiriad rhwng 355 a 5 gradd, rydych yn wynebu'r Gogledd felly bydd yn dangos G ar y dangosydd LED ac yn bib-bibian.
  • Os oes gennych micro:bit newydd, gallwch glywed y sain ar y seinydd parod, fel arall, gallwch gysylltu clustffonau â phin 0 a'r GND.
  • Os nad ydych yn wynebu'r Gogledd, bydd yn clirio'r dangosydd ac yn stopio'r sain.
  • Gallwch hefyd wasgu botwm A i weld darlleniadau cwmpawd ar y dangosydd LED os nad ydych yn wynebu'r Gogledd.
  • Yn ôl pob tebyg, gofynnir i chi chwarae gêm fach pan fyddwch yn defnyddio prosiect cwmpawd ar eich micro:bit am y tro cyntaf. Gwyro'r sgrin i oleuo pob LED ar y dangosydd. Mae hyn yn graddnodi'r cwmpawd ac yn sicrhau ei fod yn gweithio'n gywir.
micro:bit a rhosyn y cwmpawd

Beth sydd ei angen arnoch

  • micro:bit
  • Golygydd MakeCode neu Python
  • pecyn batri (opsiynol)

Cam 2: Codio

1from microbit import *
2import music
3
4while True:
5    direction = compass.heading()
6    if direction < 5 or direction > 355:
7        display.show('N')
8        music.play("C4:1")
9    elif button_a.is_pressed():
10        display.scroll(direction)
11    else:
12        display.clear()
13        music.stop()
14

Cam 3: Gwella

  • Chwarae gwahanol nodau gan ddibynnu ar ba ffordd rydych yn ei hwynebu: De, Dwyrain neu Orllewin.
  • Ychwanegu gwasgu botwm arall i raddnodi'r cwmpawd eto os byddwch yn meddwl nad yw'n fanwl gywir. Yn MakeCode, byddwch yn gweld y bloc 'graddnodi cwmpawd' o dan Mewnbwn... mwy. Yn Python, defnyddio cwmpawd.graddnodi()

Ariennir gan Lywodraeth Cymru / Funded by Welsh Government

Translation generously supported by the Welsh Government.