Skip to content

Gweithgaredd

Gitâr Scratch

Dechreuwr | Scratch | Botymau, Pinnau | Harmoni, Mewnbwn/allbwn

Cam 1: Gwneud

Beth yw e?

Chwarae cordiau go iawn ar gitâr micro:bit trydan

llun yn dangos padiau ffoil tun wedi'u cysylltu â phinnau 0, 1, 2 a GND micro:bit ar gitâr cardfwrdd

Sut mae'n gweithio

  • Gwneud gitâr neu allweddell o gardfwrdd a ffoil fel yr un yn y llun.
  • Cysylltu padiau ffoil tun â phinnau mewnbwn 0, 1, 2 a GND ar y micro:bit.
  • Pan fyddwch yn cyffwrdd â phin GND ac un o'r pinnau eraill, bydd y rhaglen yn chwarae nodyn F, A neu C mewn sain gitâr ar allbwn sain eich cyfrifiadur.
  • Os byddwch yn gwasgu pob un ohonynt ar yr un pryd, bydd yn chwarae'r 3 nodyn ar yr un pryd. Dyma gord F Fwyaf.
  • Mae gwasgu botwm A neu B ar y micro:bit yn achosi i'r rhaglen symud y traw wythfed i fyny neu i lawr (newid y traw +120 neu -120 yn symud wythfed cyfan i fyny neu i lawr – 8 nodyn).
Ciplun o brosiect Scratch

Beth sydd ei angen arnoch

  • micro:bit a phecyn batri opsiynol
  • cyfrifiadur addas gyda dolen Scratch wedi'i gosod. Gweler https://scratch.mit.edu/microbit i gael manylion am sut i gael Scratch i weithio gyda micro:bit
  • 4 cebl clip crocodeil
  • cardfwrdd, siswrn, glud, ffoil tun

Cam 2: Codio

Blociau cod Scratch ar gyfer y corlun gitâr

Blociau cod ar gyfer y corlun gitâr

Cam 3: Gwella

  • Gwneud i'r traw newid yn fwy main gyda rhifau llai: rhoi cynnig ar ddefnyddio 12 yn lle 120.
  • Ychwanegu rheolydd lefel sain drwy fesur ongl gwyro eich gitâr micro:bit.
  • Ychwanegu mwy o gordiau neu newid sain yr offeryn yn Scratch.
Ariennir gan Lywodraeth Cymru / Funded by Welsh Government

Translation generously supported by the Welsh Government.