Skip to content

Gweithgaredd

Cofnodydd data Python

Uwch | Python | Mesurydd cyflymiad, Radio, Rhyngwyneb USB | Grymoedd, Synwyryddion, Tonnau radio, Trafod data, Trafod gwybodaeth, Tywydd a hinsawdd, Ynni, Ystadegau a graffiau

Cam 1: Gwneud

Beth yw e?

Defnyddio micro:bit fel cofnodydd data diwifr i recordio darlleniadau o'i synwyryddion.

micro:bit yn dangos yr echelinau X, Y a Z ar draws, i fyny ac i lawr ac o'r blaen i'r cefn wrth ochr graff o'r data a gasglwyd

Sut mae'n gweithio

  • Fflachio rhaglen y trosglwyddydd ar micro:bit gyda phecyn batri a naill ai ei chysylltu â rhywbeth sy'n symud (fel y tu mewn i droellwr salad) neu fod yn barod i chwarae taflu a dal â hi. Mae'r rhaglen yn cymryd darlleniadau'r mesurydd cyflymiad yn barhaus o'r grymoedd mewn 3 dimensiwn (yr echelinau x, y a z) ac yn eu trosglwyddo dros radio.
  • Cysylltu eich micro:bit derbyn â chyfrifiadur drwy USB a fflachio'r rhaglen logio arno gan ddefnyddio ap golygydd Mu Python.
  • Mae'r micro:bit hwn yn derbyn data'r mesurydd cyflymiad ac yn eu hanfon fel data cyfresol i'ch cyfrifiadur. Clicio ar y botwm 'Plotter' yn Mu a dylech weld graffiau o'r darlleniadau data byw yn ymddangos ar y sgrin.
  • Rhoi synhwyrydd y micro:bit ar bob ochr a gweld sut mae darlleniadau pob echelin yn newid. Taflu'r micro:bit yn yr awyr, ei droelli mewn troellwr salad: beth rydych yn ei weld?
  • Mae Mu yn cadw'r data rhifol fel ffeil CSV (gwerthoedd wedi'u gwahanu ag atalnodau) yn ffolder hafan eich cyfrifiadur. Edrych yn 'mu_cod' ac wedyn yn y ffolder 'cadw_data'.
  • Gallwch agor y ffeil CSV mewn rhaglen taenlenni i'w dadansoddi. Os byddwch yn dileu'r colofnau ail a thrydedd gwaith, gan adael y gyntaf yn unig, gallwch blotio'r data ar graff gwasgariad yn eich taenlen gan dangos sut mae'r grymoedd wedi newid dros amser.
taenlen yn dangos graff o ddarlleniadau mesurydd cyflymiad micro:bit

Beth sydd ei angen arnoch

  • 2 micro:bit ac un pecyn batri
  • gliniadur neu gyfrifiadur bwrdd gwaith i gofnodi data arno
  • Ap golygydd Mu Python: https://codewith.mu/
  • troellwr salad opsiynol

Cam 2: Codio

Synhwyrydd / trosglwyddydd

1from microbit import *
2import radio
3radio.config(group=99)
4radio.on()
5
6while True:
7    sleep(20)
8    radio.send(str(accelerometer.get_values()))
9

Derbynnydd / cofnodydd

1from microbit import *
2import radio
3radio.config(group=99)
4radio.on()
5
6while True:
7    message = radio.receive()
8    sleep(20)
9    print(message)
10

Cam 3: Gwella

  • Cofnodi darlleniadau synwyryddion eraill y micro:bit o bell yn y ffordd hon, megis darlleniadau tymheredd, golau neu gwmpawd magnetig.
  • Cynnal arbrawf ffiseg i ddeall y grymoedd mae'r micro:bit yn eu profi wrth iddo droelli yn y troellwr salad (allgyrchydd). Ydych chi'n gweld yr hyn roeddech yn ei ddisgwyl? (Cofio mai dim ond grymoedd hyd at 2g, dwbl disgyrchiant y Ddaear, y gall mesurydd cyflymiad y micro:bit eu darllen – os byddwch yn troelli'r micro:bit yn gyflym, efallai bydd yn profi grymoedd sy'n rhy fawr iddo eu nodi.)
Ariennir gan Lywodraeth Cymru / Funded by Welsh Government

Translation generously supported by the Welsh Government.