Skip to content

Gweithgaredd

Cofnodydd data MakeCode

Uwch | MakeCode | Mesurydd cyflymiad, Radio, Rhyngwyneb USB | Grymoedd, Synwyryddion, Tonnau radio, Trafod data, Trafod gwybodaeth, Tywydd a hinsawdd, Ynni, Ystadegau a graffiau

Cam 1: Gwneud

Beth yw e?

Defnyddio micro:bit fel cofnodydd data diwifr i recordio darlleniadau o'i synwyryddion.

micro:bit yn dangos graff ac echelinau X, Y a Z yn mynd ar draws, o'r gwaelod i'r brig ac o'r blaen i'r cefn yn y drefn honno.

Sut mae'n gweithio

  • Fflachio rhaglen y trosglwyddydd ar micro:bit gyda phecyn batri a'i gysylltu â rhywbeth sy'n symud (fel y tu mewn i droellwr salad) neu fod yn barod i chwarae gêm taflu a dal ag ef.
  • Mae'r trosglwyddydd yn cymryd darlleniadau'r mesurydd cyflymiad yn barhaus o'r grymoedd mewn 3 dimensiwn (echelinau x, y a z) ac yn eu trosglwyddo dros radio.
  • Cysylltu'r micro:bit derbyn â chyfrifiadur a fflachio'r rhaglen logio arno gan ddefnyddio'r porwr Chrome neu'r ap MakeCode ar wahân. Mae hyn yn derbyn data'r mesurydd cyflymiad ac yn ei anfon fel data cyfresol i'ch cyfrifiadur.
  • Dylech nawr weld botwm 'dangos dyfais gonsol' islaw'r efelychwr micro:bit, clicio arno a dylech weld graffiau gyda'r darlleniadau data byw yn ymddangos ar y sgrin.
  • Dal y micro:bit synhwyro ar bob un o'i ochrau a gweld sut mae darlleniadau pob echelin yn newid. Taflu'r micro:bit yn yr awyr, ei droelli mewn troellwr salad: beth rydych yn ei weld?
  • Gwasgu 'oedi' er mwyn lawrlwytho'r data rhifyddol fel ffeil CSV (gwerthoedd wedi'u gwahanu ag atalnod) y gallwch eu hagor mewn rhaglen taenlenni i'w dadansoddi. Os byddwch yn dileu'r colofnau ail a thrydedd gwaith, gan adael y gyntaf yn unig, gallwch blotio'r data ar graff gwasgariad yn eich taenlen gan dangos sut mae'r grymoedd wedi newid dros amser.
taenlen yn dangos graff llinell o ddarlleniadau'r mesurydd cyflymiad

Beth sydd ei angen arnoch

  • 2 micro:bit ac un pecyn batri
  • gliniadur neu gyfrifiadur bwrdd gwaith i gofnodi data arno
  • Golygydd MakeCode (ap ar wahân neu fersiwn gwe yn Chrome v65 neu ddiweddarach)
  • cadarnwedd cyfoes (0249 neu'n uwch) ar y micro:bit derbyn
  • troellwr salad opsiynol

Cam 2: Codio

Synhwyrydd / trosglwyddydd

Derbynnydd

Cam 3: Gwella

  • Cofnodi darlleniadau synwyryddion eraill y micro:bit o bell yn y ffordd hon, megis darlleniadau tymheredd, golau neu gwmpawd magnetig.
  • Cynnal arbrawf ffiseg i ddeall y grymoedd mae'r micro:bit yn eu profi wrth iddo droelli yn y troellwr salad (allgyrchydd). Ydych chi'n gweld yr hyn roeddech yn ei ddisgwyl? (Cofio mai dim ond grymoedd hyd at 2g, dwbl disgyrchiant y Ddaear, y gall mesurydd cyflymiad y micro:bit eu darllen – os byddwch yn troelli'r micro:bit yn gyflym, efallai bydd yn profi grymoedd sy'n rhy fawr iddo eu nodi.)
Ariennir gan Lywodraeth Cymru / Funded by Welsh Government

Translation generously supported by the Welsh Government.