Cam 1: Gwneud
Beth yw e?
Cysylltu clustffonau â'ch micro:bit a gwneud cerddoriaeth!
Sut mae'n gweithio
- I wneud seiniau â micro:bit, cysylltwch glustffonau neu seinydd. Clipiwch flaen y plwg clustffonau i bin 0 ar micro:bit. Clipiwch ran hirach y plwg clustffon i'r pin GND ar micro:bit.
- Defnyddio'r rhaglen hon i wneud i'ch micro:bit chwarae un o'i donau parod pan fyddwch yn gwasgu botwm A.
- Defnyddir y pinnau aur ar waelod y micro:bit ar gyfer mewnbynnau ac allbynnau. Yma rydym yn defnyddio pin 0 fel mewnbwn. Mae'r micro:bit yn anfon pylsiau o signalau trydanol o pin 0 pan fydd yn chwarae'r dôn. Mae rhaid i'r clustffonau hefyd gael eu cysylltu â'r pin GND ar y micro:bit i gwblhau'r cylched drydanol.
Beth sydd ei angen arnoch
- micro:bit (neu efelychwr MakeCode)
- Golygydd MakeCode neu Python
- pecyn batri (opsiynol)
- pâr o glustffonau, swnyn neu seinydd a fwyhawyd
- dau gebl clip crocodeil
Cam 2: Codio
Cam 3: Gwella
- Rhoi cynnig ar wahanol donau megis ODE, BLUES neu BIRTHDAY. Gallwch ddod o hyd i restr o donau gallwch eu defnyddio yn Python yma.
- Gwneud i'r dôn chwarae mwy nag unwaith gan ddefnyddio dolen.
- Beth fydd yn digwydd os byddwch yn cysylltu pin 0 â rhan ganol y plwg clustffon yn hytrach na'r blaen?
This content is published under a Creative Commons Attribution-ShareAlike 4.0 International (CC BY-SA 4.0) licence.
Translation generously supported by the Welsh Government.