Cam 1: Gwneud
Beth yw e?
Larwm o bell a reolir gan radio felly pan fyddwch yn gwybod bod rhywun wedi troi'r goleuadau ymlaen - neu wedi agor drôr neu fag.
Sut mae'n gweithio
- Fel y Prosiect synhwyrydd golau haul, mae'n defnyddio LEDs y micro:bit fel synhwyrydd golau i fesur faint o olau sy'n cwympo ar y dangosydd.
- Gan ddefnyddio dolen, bob 10 eiliad mae'r rhaglen synhwyrydd yn anfon neges radio i ddweud a yw'n olau neu dywyll. Mae'n defnyddio dewis i drosglwyddo neges 'goleuadau ymlaen' os yw'r mesuriad golau yn fwy na (>) 50, a 'goleuadau i ffwrdd' os yw'n llai na (<) 50. Efallai y bydd angen i chi newid y gwerthoedd hyn gan ddibynnu ar amodau goleuo eich lleoliad.
- Mae gwasgu botwm mewnbwn A yn dangos mesuriad golau ar allbwn y dangosydd LED a fydd yn eich helpu i osod eich larwm, fel y gallwch newid 50 i'r rhif gorau ar gyfer eich amgylchedd.
- Mae'r rhaglen larwm yn ymateb pryd bynnag mae'n derbyn neges. Os bydd y neges yn cyfateb i 'goleuadau i ffwrdd'wedyn bydd yn clirio'r dangosydd LED ond os bydd yn cyfateb i 'goleuadau ymlaen' wedyn bydd yn dangos wyneb crac ac yn chwarae sain y larwm 'BADDY'.
- Sicrhau bod eich synhwyrydd a'ch larwm yn defnyddio'r un grŵp radio - unrhyw rif rhwng 0 a 255.
Beth sydd ei angen arnoch
- 2 micro:bit, o leiaf un â phecyn batri
- rhywbeth gwerthfawr i'w gadw'n ddiogel
- clustffonau, swnwyr neu seinyddion wedi'u pweru opsiynol ar gyfer larwm
Cam 2: Codio
Synhwyrydd / trosglwyddydd:
Larwm / derbynnydd:
Cam 3: Gwella
- Cyfuno hwn â'r prosiect Larwm gwyro i synhwyro pan fydd rhywbeth yn cael ei symud NEU os bydd y goleuadau'n cael eu troi ymlaen.
- Gwnewch i'r larwm weithio y ffordd arall fel ei bod yn canu os bydd rhywun yn troi'r goleuadau i ffwrdd.
- Addasu hyn i fonitro defnydd ynni: defnyddio newidyn i olrhain nifer yr eiliadau y mae'r goleuadau'n cael eu gadael ymlaen neu sbarduno larwm pan fyddant wedi bod ymlaen am rhy hir yn unig.
This content is published under a Creative Commons Attribution-ShareAlike 4.0 International (CC BY-SA 4.0) licence.
Translation generously supported by the Welsh Government.