Skip to content

Gweithgaredd

Cofnodydd data cryfder cic

Canolradd | MakeCode | Logio data, Mesurydd cyflymiad | Gweithio'n wyddonol, Mesuriad, Rhesymeg Boolean, Synwyryddion, Trafod data, Trafod gwybodaeth, Ystadegau a graffiau

Cam 1: Gwneud

Beth yw e?

Defnyddiwch eich BBC micro:bit i wella'ch gêm trwy gasglu data gwyddor chwaraeon ar gryfder ciciau neu ergydion raced.

Cyflwyniad

Canllaw codio

Sut mae'n gweithio

Mae'r prosiect hwn yn defnyddio synhwyrydd cyflymromedr a a nodwedd cofnodi data micro:bit i logio a storio data ar ba mor galed ydych chi'n cicio pêl, neu'n taro raced, dros gyfnod byr o amser. Yna gallwch chi astudio'r data ar gyfrifiadur i wella'ch cysondeb neu berfformiad dros amser, yn yr un modd mae mabolgampwyr proffesiynol yn defnyddio gwyddor data i helpu i wella eu perfformiad.

Casglu data

  • Rhowch y cod ar micro:bit V2 ac atodwch becyn batri. Pan fyddwch chi'n barod i gasglu data, rhowch e yn eich hosan (neu clymwch e i'ch arddwrn.)
  • Pwyswch y botwm A i ddechrau cofnodi data. Mae'r sgrîn arddangos yn dangos tic.
  • Rhowch gynnig ar fathau gwahanol o symudiadau dros gyfnod byr o amser. Er enghraifft, treuliwch ychydig funudau yn cymryd tair cic gosb, yna gwnewch dri phas.
  • Os gwelwch groes ar y sgrîn arddangos, mae hynny'n golygu bod y micro:bit wedi cael ei ailosod yn ddamweiniol. Dilëwch yr hen ddata trwy gyffwrdd â'r logo, ac ar yr un pryd daliwch y botwm A i lawr a phwyswch y botwm B. Yna pwyswch y botwm A i ddechrau cofnodi eto.
  • Datgysylltwch y pecyn batri pan fyddwch wedi gorffen casglu data.

Dadansoddi'r data

Plygiwch y micro:bit i mewn i soced USB cyfrifiadur.

Sut mae ffeil MY_DATA y micro:bit yn ymddangos ar gyfrifiadur Windows

Chwiliwch am y gyriant MICROBIT ar y cyfrifiadur. Cliciwch ddwywaith ar y ffeil MY_DATA i weld eich data mewn porwr gwe. Yna cliciwch ar ‘Rhagolwg gweledol’ i weld eich data ar graff.

Graff yn dangos 3 phigyn mawr a 3 phigyn llai.

Mae’r graff yn dangos amser ar hyd yr echelin X a chryfder cyflymiad yn yr echelin Y. Mae hwn yn cael ei fesur mewn mili G. Po fwyaf yw'r rhif ar yr echelin Y, y mwyaf o gyflymiad a fesurwyd a'r cryfaf yw eich cic.

Allwch chi ganfod eich tair cic o'r smotyn a'ch tri phas? Ai eich cic gryfaf oedd y mwyaf cywir? Gallech chi gymharu eich perfformiad a chysondeb dros amser, neu gyda chwaraewyr eraill.

Gallwch chi lawrlwytho'r cod o'r dudalen hon a'i ddefnyddio ar unwaith. Neu, os ydych chi am godio'r cofnodydd data cryfder cic eich hun, gwyliwch y fideo codio uchod.

Beth sydd ei angen arnoch

  • micro:bit V2 a phecyn batri
  • cyfrifiadur a chebl USB micro ar gyfer codio'r micro:bit a gweld eich data
  • gall ein canllaw cofnodi data fod yn ddefnyddiol

Cam 2: codio

Cam 3: gwella

  • Defnyddiwch ddata o'r mesurydd cryfder cic i'ch helpu chi a phartner i wella cysondeb eich pasiau dros gyfnod o amser.
  • Casglwch ddata dros gyfnodau hwy o amser trwy gofnodi yn llai aml. Newidiwch yr amser yn y bloc ‘pob’ i rif mwy.
  • Ychwanegwch rybudd clywadwy neu weledol os yw cryfder eich cic yn mynd dros werth penodol.