Skip to content

Gweithgaredd

Dyma'r haul

Dechreuwr | MakeCode, Python | Dangosydd LED | Cynrychiolaeth

Cam 1: Gwneud

Beth yw e?

Creu eich eicon haul eich hun ar gyfer eich micro:bit.

micro:bit yn dangos delwedd o haul yn disgleirio ar ei ddangosydd LED

Sut mae'n gweithio

  • Mae gan y micro:bit lawer o luniau parod, ond weithiau byddwch eisiau ychwanegu eich lluniau eich hun.
  • Mae'r rhaglen hon yn creu delwedd o'r haul gan ddefnyddio grid 5x5 LEDs dangosydd y micro:bit.
  • Mae cyfrifiaduron, ffonau a thabledi'n defnyddio lluniau bach i gynrychioli pethau a syniadau gan ddefnyddio nifer fach o ddotiau, neu bicseli, fel eiconau neu emojis.

Beth sydd ei angen arnoch

  • micro:bit (neu efelychwr MakeCode)
  • Golygydd MakeCode neu Python
  • pecyn batri (opsiynol)
  • papur â sgwariau ar gyfer dylunio eich dyluniadau eich hun (opsiynol)

Cam 2: Codio

1from microbit import *
2
3while True:
4    display.show(Image(
5        "90909:"
6        "09990:"
7        "99999:"
8        "09990:"
9        "90909"))

Cam 3: Gwella

  • Tynnu llun eich fersiwn eich hun o'r haul, neu seren neu leuad.
  • Gwneud i'r haul ymddangos os byddwch yn gwasgu botwm A, lleuad os byddwch yn gwasgu botwm B.
  • Defnyddio dolen i wneud i'r haul amrantu neu godi.
  • Yn Python, defnyddio ystod o rifau (nid 9 yn unig) i ddangos pelydrau'r haul yn pylu wrth iddynt fynd ymhellach o'r canol.

Ariennir gan Lywodraeth Cymru / Funded by Welsh Government

Translation generously supported by the Welsh Government.