Cam 1: Gwneud
Beth yw e?
Darganfyddwch y lleoedd gorau i dyfu planhigion trwy ddefnyddio eich BBC micro:bit i astudio lefelau golau a thymheredd dros sawl awr neu ddiwrnod.
Cyflwyniad
Canllaw codio
Beth sydd ei angen arnoch
- micro:bit V2
- cyfrifiadur a chebl USB meicro ar gyfer codio'r micro:bit a gweld eich data
- pecyn batri micro:bit (dewisol ond argymhellir)
- efallai y bydd ein canllaw cofnodi data yn ddefnyddiol
Casglu data
- Fflachiwch y rhaglen isod ar eich micro:bit.
- Datgysylltwch e o'ch cyfrifiadur, atodwch becyn batri a rhowch y micro:bit lle yr hoffech astudio lefelau tymheredd a golau.
- Bydd trosglwyddo rhaglen newydd i'ch micro:bit yn dileu unrhyw logiau data blaenorol, ond gallwch hefyd ddileu hen ddata trwy bwyso'r botymau A a B gyda'i gilydd. Mae cael un set o ddata gyda stampiau amser di-dor yn ei gwneud hi'n haws ei gweld yn nes ymlaen.
- Pwyswch y botwm A i ddechrau cofnodi. Bydd tic yn ymddangos ar y sgrîn LED. Bydd nawr yn cofnodi data bob 1 funud (60,000 milieiliad). Gallwch newid y cyfwng hwn trwy addasu'r bloc 'pob' yn y cod. Mae calon yn fflachio ar y sgrîn LED i ddangos pan fydd data'n cael eu cofnodi.
- Yn yr achos anhebygol bod y cofnod yn dod yn llawn, mae'r cod yn rhoi gwybod i chi trwy oleuo'r holl LEDs ar y sgrîn.
- Pwyswch y botwm B i stopio cofnodi. Byddwch yn gweld 'X' yn ymddangos i ddangos ei fod wedi stopio.
Dadansoddwch eich data
- Datgysylltwch y pecyn batri a phlygiwch y micro:bit yn ôl i mewn i gyfrifiadur. Mae'r micro:bit yn ymddangos fel gyriant USB o'r enw MICROBIT. Edrychwch yn y gyriant MICROBIT ac agorwch y ffeil MY_DATA i weld tabl o'ch data mewn porwr gwe:

Sut i ddod o hyd i'ch data ar y gyriant MICROBIT

Mae eich data yn ymddangos mewn tabl mewn porwr gwe
- Mae'r stampiau amser yn y log yn cynrychioli faint o amser sydd wedi mynd heibio ers i'ch micro:bit gael ei droi ymlaen. Os byddwch chi'n mewngofnodi mwy nag un set o ddata heb glirio'r cofnod, efallai na fyddwch chi'n gallu gweld rhagolwg gweledol y data rydych chi am eu hastudio, felly mae'n syniad da dileu'r cofnod sydd wedi'i storio'n flaenorol cyn dechrau arbrawf newydd.
- Cliciwch ar Rhagolwg gweledol i weld graff o'ch data:

- Gallwch ynysu llinellau unigol trwy glicio ar eu labeli. Gall darlleniadau golau amrywio rhwng 0 a 255, ond mae tymheredd yn debygol o amrywio mewn ystod lai. Yma gallwn weld newidiadau mewn tymheredd yn gliriach trwy edrych ar ei linell ar ei ben ei hun:

- Gallwch hefyd glicio ar y botwm Copïo ac yna gludwch eich data i mewn i daenlen.
Cam 2: Codio
Cam 3: Gwella
- Cofnodi data dros gyfnod hwy o amser, megis unwaith yr awr am sawl diwrnod.
- Cynhaliwch yr arbrawf mewn gwahanol leoedd a chymharwch eich data.
- Crëwch adroddiad yn seiliedig ar eich canfyddiadau i helpu pobl i wneud penderfyniadau ynghylch ble bydd planhigion yn tyfu orau.
- Gallech chi ddefnyddio’r prosiect hwn i astudio patrymau defnydd golau a gwresogi trydan a defnyddio’r data i awgrymu ffyrdd o arbed ynni.
- Addaswch y cod i astudio lefelau sŵn dros amser gan ddefnyddio'r meicroffon.
This content is published under a Creative Commons Attribution-ShareAlike 4.0 International (CC BY-SA 4.0) licence.

Translation generously supported by the Welsh Government.